British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Awst 2010, 12:29 GMT 13:29 UK
Yr weinyddiaeth yn taflu golau ar ddigwyddiad y Berwyn?

Goleadau yn yr awyr
Yn 1974 bu daeargryn a goleuadau 'anarferol' uwchben Mynyddoedd y Berwyn

Daeargryn neu feteor oedd y rheswm am "ddigwyddiad anarferol" ar Fynyddoedd y Berwyn yn 1974, yn ôl dogfennau swyddogol yr Weinyddiaeth Amddiffyn.

Ar y pryd roedd rhai'n credu mai'r rheswm oedd ymwelwyr o'r gofod oherwydd ergyd uchel a goleuadau llachar.

Roedd rhai'n credu bod y digwyddiad yn debyg i'r hyn ddigwyddodd yn Roswell yn nhalaith New Mecsico yn yr Unol Daleithiau yn 1947 pan oedd sôn am UFO yn cwympo i'r ddaear.

Yn ôl dogfennau'r weinyddiaeth, doedd yna ddim UFO yn Y Berwyn.

Mae'r manylion sy'n cael eu rhyddhau o'r Archifdy Prydeinig yn sôn am ddaeargryn a meteor yn taro'r ddaear.

'Goleuadau llachar'

Ar y pryd anfonwyd awyren a thîm achub o'r Fali i chwilio'r ardal.

Yn ôl ymchwil yr weinyddiaeth, roedd adroddiadau am oleuadau anarferol o bum ardal arall ym Mhrydain am 10pm ar Ionawr 23, 1974.

Roedd pobl yn ne Lloegr yn sôn am weld goleuadau llachar yn y gogledd orllewin.

Dywedodd arbenigwr o Gymdeithas Seryddol Prydain fu'n ymchwilio i ddigwyddiad y Berwyn fod "goleuadau llachar" yn yr awyr ym Mhrydain ar y noson dan sylw.

Yn 1974 fe ysgrifennodd yr weinyddiaeth at yr Aelod Seneddol lleol Dafydd Elis Thomas yn cynnig esboniad.

'Ffrwydrad'

"Mae'n ymddangos y gallai'r hyn ddigwyddodd fod wedi ei achosi gan feteor yn cwympo i'r ddaear ac yn llosgi ...," meddai'r llythyr

"Mae yna hefyd awgrym tua 8.32pm fod yna ddeargryn bach ar Fynyddoedd y Berwyn a bod hyn wedi achosi tirlithriad a sŵn fel ffrwydrad."

Ond mae rhai'n parhau i amau'r esboniad.

Mae'r dogfennau swyddogol yn cynnwys llythyr un o'r trigolion yn dweud: "Rwy'n sicr i rywbeth ddisgyn i'r ddaear ar Fynyddoedd y Berwyn.

"Dwi i a fy nghyfeillion oedd gyda mi ar y noson yn sicr bod rhywbeth wedi ymweld â ni y noson honno."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific