British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Awst 2010, 07:53 GMT 08:53 UK
Canslo Gwyl y Faenol

Gwyl Y Faenol
Roedd y 10fed ŵyl i fod i gael ei chynnal yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc

Fydd Gŵyl y Faenol ddim yn cael ei chynnal eleni oherwydd bod gwerthiant tocynnau wedi bod yn siomedig.

Ond fe fydd cyngerdd Westlife yn digwydd ar Awst 27, yn Venue Cymru yn Llandudno.

Roedd y 10fed ŵyl i fod i gael ei chynnal ar benwythnos Gŵyl y Banc mis Awst ar Stad y Faenol ger Bangor.

Dywedodd sylfaenydd yr ŵyl, Bryn Terfel: "Yn anffodus, nid yw gwerthiant tocynnau ymlaen llaw yn yr hinsawdd economaidd bresennol wedi bod yn ddigon er mwyn i ni deimlo'n hyderus i symud yn ein blaenau gyda'r ŵyl lawn.

"Dwi'n gwybod y bydd llawer ohonoch chi mor siomedig â minnau.

"Ond rydym wedi edrych ar y sefyllfa yn fanwl o bob ongl a doedd dim ateb arall yn bosibl."

'Hynod siomedig'

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi bron £250,000 at yr ŵyl.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Mae hyn yn newyddion hynod siomedig i bawb sydd wedi bod yn edrych ymlaen at yr ŵyl eleni.

"Fel cyngor, mi fyddwn ni rwan yn ceisio cyfarfod buan gyda threfnwyr y digwyddiad i drafod dyfodol hirdymor y digwyddiad lleol pwysig.

"... mae gan safle Stad y Faenol botensial sylweddol fel lleoliad rhanbarthol ar gyfer digwyddiadau awyr agored fel y gwelwyd gyda Phenwythnos Mawr Radio 1 eleni yn ogystal â Gwyliau'r Faenol llwyddiannus a gynhaliwyd ers 10 mlynedd.

"Ein blaenoriaeth rwan fydd adeiladu ar record Stad y Faenol er mwyn denu rhagor o ddigwyddiadau awyr agored sylweddol yn ystod y blynyddoedd i ddod."

"Ailwampio"

Ym mis Gorffennaf dywedodd y trefnwyr y byddai angen "ailwampio" Gŵyl y Faenol os nad oedd mwy o docynnau yn cael eu gwerthu cyn diwedd y mis.

Roedd y perfformwyr i fod i gynnwys y tenor Rolando Villazon a'r gantores o Seland Newydd, Hayley Westenra.

Ac roedd Rhydian Roberts i fod i ganu yno am y tro cyntaf a noson Tân y Ddraig i fod i gynnwys bandiau Cymraeg a Saesneg.

Cynulleidfa Y Faenol
Mae miloedd wedi bod yn Y Faenol

Roedd y trefnwyr wedi dweud bod llawer llai o docynnau wedi cael eu gwerthu wedi i Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi nawdd o bron £250,000 ar gyfer y digwyddiad.

Fe fydd modd cael ad-daliad am docynnau.

Ni chafodd yr ŵyl ei chynnal yn 2009 oherwydd colledion ariannol yn 2008 ac am nad oedd modd denu artistiaid penodol.

Dywedodd Syr David Henshaw, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gŵyl y Faenol: "Mae'n rhy gynnar i ddweud beth fydd yn digwydd yn y blynyddoedd sydd i ddod."



HEFYD
Westlife yn agor Gwyl Y Faenol
12 Mai 10 |  Newyddion
Gofyn cwestiynau am ariannu'r Faenol
07 Gorff 10 |  Newyddion
Bwyd a chrefftau yn y Faenol
30 Meh 10 |  Newyddion
Gwyl y Faenol i'w chynnal eleni
28 Ebr 10 |  Newyddion
Diwedd y gn yw'r geiniog
18 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific