British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Awst 2010, 13:38 GMT 14:38 UK
Galw cyfarfod brys am ysbytai

Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
Bydd Bronglais yn parhau i fod yn Ysbyty Cyffredinol Rhanbarthol

Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi galw am gyfarfod brys gyda swyddogion bwrdd iechyd ar ôl honiadau y byddai dau ysbyty cyffredinol yn cael eu hisraddio.

Bydd Edwina Hart yn cwrdd â phrif weithredwr a chadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Roedd adroddiad drafft gan y Bwrdd ddaeth i ddwylo'r wasg yn dweud y byddai ysbytai Aberystwyth a Hwlffordd yn troi yn ysbytai cyffredinol gwledig.

Ond dywed y Bwrdd fod yr adroddiad yn un hen ac na fyddai statws yr ysbytai yn newid.

Yn 2006 roedd adolygiad yn bygwth dyfodol nifer o ysbytai yn y canolbarth a'r gorllewin.

Ar y pryd fe orymdeithiodd 1,000 drwy Aberystwyth yn erbyn "newidiadau posib" i Ysbyty Bronglais.

Mae'r bwrdd iechyd yn gyfrifol am Ysbytai Bronglais, Llwynhelyg, Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin ac Ysbyty'r Tywysog Philio yn Llanelli sy i gyd yn ysbytai cyffredinol rhanbarthol.

Fe fydd y rhai sydd wedi eu dynodi'n ysbytai cyffredinol rhanbarthol yn parhau felly
Trevor Purt

Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Roedd yr adroddiad drafft wedi awgrymu y gallai Bronglais a Llwynhelyg golli rhai adrannau, gan gynnwys yr adran ddamweiniau.

'Canoli'

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Trevor Purt: "Mae ein cynlluniau yn dal i gael eu datblygu.

"Ond ein bwriad yw buddsoddi'n sylweddol er mwyn gwella ein gwasanaethau cymunedol, gan ddarparu mwy o ofal yn y gymuned o fewn cartrefi pobl, a chanolbwyntio'n fwy ar reoli salwch hir dymor.

"Rydym yn proffwydo y bydd hyn yn arwain at lai o alw am welyau a gwasanaethau mewn ysbytai.

"Efallai y bydd angen canoli gwasanaethau arbenigol ar lai o safleoedd.

"Ond rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd ein pedwar prif ysbyty yn parhau i fod yn brif ddarparwyr gofal iechyd ac fe fydd y rhai sydd wedi eu dynodi'n ysbytai cyffredinol rhanbarthol yn parhau felly."



HEFYD
Gwasanaeth iechyd: 'Trefn newydd'
01 Hyd 09 |  Newyddion
Gwario £7.5m ar ailddatblygu ysbyty
26 Hyd 09 |  Newyddion
Ysbyty: Cynlluniau gwerth £31m
06 Meh 08 |  Newyddion
Protest yn erbyn cynllun ysbyty
08 Gorff 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific