British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Awst 2010, 14:21 GMT 15:21 UK
Ysgol: Mesurau arbennig ar ben

Ysgol Uwchradd Y Rhyl
Ysgol Uwchradd Y Rhyl: 'newyddion ardderchog'

Mae mesurau arbennig wedi dod i ben yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl.

Dywed arolygwyr bod yr ysgol wedi "gwella'n sylweddol" erbyn hyn.

Argymhellodd y corff arolygu addysg Estyn y dylid rhoi'r ysgol o dan fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2008 am nad oedd disgyblion yr ysgol yn derbyn safon addysg dderbyniol.

Pan mae ysgol yn cael ei gosod yn y categori yma, mae'n rhaid i gorff llywodraethol yr ysgol a'r Awdurdod Addysg Lleol greu cynllun gweithredu i'w gyflwyno i Estyn.

Rhaid gwneud hyn o fewn 45 diwrnod.

Pan fydd y cynllun yma wedi'i gymeradwyo, bydd arolygwr yn ymweld â'r ysgol bob tymor.

Pan fydd yr ysgol yn dangos gwelliant digonol, gall y mesurau arbennig gael eu diddymu.

Ddydd Mawrth, dywedodd un o lywodraethwyr yr ysgol, y cynghorydd Ian Gunning: "Mae'r newyddion ardderchog hyn yn ganlyniad i lawer iawn o waith caled ac ymrwymiad gan bawb yn ymwneud â'r ysgol".

Dywedodd y cynghorydd Eryl Williams, aelod cabinet ar Gyngor Sir Ddinbych: "Mae Ysgol Uwchradd Y Rhyl wedi gwneud cynnydd ardderchog dros y 12 mis diwethaf ac mae'n briodol bod Estyn wedi cydnabod hyn."



Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific