Yn ogystal â'r fedal mae 'na wobr ariannol o £5,000
|
Grace Roberts o Felinheli enillodd Wobr Goffa Daniel Owen 2010. Tair nofel gafodd ei hanfon i'r gystadleuaeth eleni a dywed y beirniaid bod ansawdd y gwaith yn "siomedig ar y cyfan". Adenydd Glöyn Byw ydi teitl y nofel gan Grace Roberts sy'n sôn am dair cenhedlaeth o'r un teulu. Dyma oedd teitl gwreiddiol y gwaith ond o dan y teitl Tri Thro i Löyn Byw yr aeth y gwaith i'r gystadleuaeth. Wedi iddi gael gwybod ei bod wedi ennill bu Grace Roberts yn gweithio ar olygu'r gwaith gyda sylwadau'r beirniaid a'r cyhoeddwyr ac fe aethpwyd yn ôl at y penawd gwreiddiol. Wrth draddodi'r feirniadaeth dywedodd Gareth Miles bod yr awdur yn deall "sut i draethu stori ac wrth ei fodd yn rhaffu digwyddiadau a chreu cymeriadau lliwgar". "Ond weithiau mae'n cael cymaint o hwyl ar sgrifennu fel na ŵyr pryd i docio a chywasgu. "Mae ganddo glust fain sy'n ei alluogi i gofnodi tafodiaith mwy nag un ardal a chenhedlaeth ac mae'r traethu bob amser yn llyfn a thryloyw." Llawer o bleser Dywedodd ei fod wedi llwyddo "i greu amrywiaeth eang o gymeriadau credadwy sy'n ein denu i mewn i'w byd a chyflwynir i ni nifer o agweddau natur y gymdeithas fel y mae yng Nghymru heddiw. "Rhoddodd y nofel, fel cyfanwaith, fwy o foddhad i Alwena Williams a minnau nag i Jane Edwards ond rydym ill tri yn cytuno y bydd hi'n nofel a fydd yn rhoi llawer o bleser i lawer o ddarllenwyr." Cafodd Grace Roberts ei geni ym Mhenysarn, Ynys Môn a'i haddysgu yn Ysgol Uwchradd Syr Thomas Jones, Amlwch a Choleg Prifysgol Bangor lle graddiodd yn y Gymraeg. Mae hi bellach yn byw yn Y Felinheli ers wyth mlynedd ar ôl 20 mlynedd yn Nefyn a blwyddyn yn Yr Wyddgrug. Am 10 mlynedd bu'n llyfrgellydd ac ar ôl i'r meibion, Gronw ac Endaf, dyfu dychwelodd at ysgrifennu yn llawn amser. Bu'n sgriptio i Pobol y Cwm am 10 mlynedd. 'Y therapi gorau' Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Môn Bro'r Frogwy 1988 ac enillodd y stori fer dair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hi wedi cyhoeddi cyfrol o'i sgyrsiau radio, Sgyrsiau Hogiau yn Bennaf, cyfrol o'i storïau byrion, Dyddiau Teisen Bwdin a dwy nofel Rhodd o Ferch a Drysfa. Wedi cyfnod o salwch meddwl a'i gwnaeth yn analluog i ysgrifennu'n greadigol bu'n chwilota i hanes ei theulu sy'n cynnwys yr awdures Eingl-Gymreig, Megan Glyn. Dywedodd bod gallu ailysgrifennu wedi bod y "therapi gorau". Dywed na allodd ysgrifennu am tua phum mlynedd oherwydd iselder ond bod y cymeriadau yn "troi a throsi" yn ei meddwl a bod y rhain yn sail i'w nofel ddiweddara. Y dasg oedd llunio nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 5,000 o eiriau. Y beirniad oedd Gareth Miles, Jane Edwards ac Alwena Williams. Yn ogystal â'r fedal mae 'na wobr ariannol o £5,000.
|