British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 2 Awst 2010, 10:44 GMT 11:44 UK
Cysylltiad trydan rhwng Cymru ac Iwerddon gam yn nes

Gwaith cwmni Eirgrid
Bydd dim ceblau'n cael eu gosod trwy ganol tre'r Fflint.

Mae rhan ddiweddara'r cynllun i gysylltu rhwydweithiau trydan Cyrmu ac Iwerddon wedi dechrau yn Sir Fflint.

Y gobaith yw y bydd yr East West Interconnector yn cyflenwi 300,000 o gartrefi, ac fe fydd y cynllun gwerth £560 mliwn gan gwmni Eirgrid wedi'i gwbwlhau ymhen tair blynedd.

Bydd system rheoli traffig yn weithredol ar Ffordd Aber, Y Fflint, am chwe wythnos tra bydd ceblau'n cael eu gosod yno.

Dywed Eirgrid eu bod wedi cytuno i beidio gosod ceblau yng nghanol y dre er mwyn creu llai o drafferth i'r trigolion.

Dim ond trigolion a cherbydau'r gwasanaethau brys fydd yn cael mynediad i Ffordd Aber dros y cyfnod dan sylw.

Dywedodd Alan McHugh, rheolwr y cynllun o gwmni Eirgrid: "Tra bydd ein ceblau ar y cyfan yn dilyn llwybr yr A548, fyddwn ni ddim yn mynd â nhw trwy ganol tre'r Fflint er mwyn sicrhau na fydd busnesau'n diodde oherwydd y gwaith.

"Bydd llwybr arall drwy Ffordd Aber yn gwneud y tro, a hoffwn sicrhau pobl y byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y bydd cyn lleied o darfu â phosibl ar drigolion."

Bydd ceblau trydan yn dod i'r lan ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych, cyn teithio o dan ddaear i orsaf drosglwyddo yn Shotton, Sir Fflint.



HEFYD
Cysylltiad trydan dwy wlad yn nes
15 Medi 09 |  Newyddion
Cymeradwyo cysylltiad trydan
30 Maw 09 |  Newyddion
Cebl trydan o Gymru i'r Iwerddon
09 Hyd 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific