British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 31 Gorffennaf 2010, 09:56 GMT 10:56 UK
Holi dau ynglyn â ffrwydron

Swyddogion fforensig yng Nghaernarfon
Bu swyddogion fforesnsig yn archwilio dau adeilad

Mae dau ddyn o Wynedd yn cael eu holi ynglŷn â throseddau posib yn ymwneud â ffrwydron.

Cafodd y dynion, 52 oed a 21 oed, eu harestio mewn dau gyfeiriad yn ardal Caernarfon ddydd Gwener yn dilyn cyrch ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Llundain.

Mae'r ddau yn cael eu holi mewn gorsafoedd yng nghanol Llundain.

Bu'r heddlu yn archwilio dau eiddo yn y gogledd.

Mae'r ddau yn cael eu holi dan Adran 4 y Ddeddf Ffrwydron.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific