British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 30 Gorffennaf 2010, 15:56 GMT 16:56 UK
S4C yn penodi Arwel Ellis Owen fel pennaeth dros dro

Arwel Ellis Owen
Arwel Ellis Owen: Canllawiau iaith newydd

Mae S4C wedi cyhoeddi mai Arwel Ellis Owen fydd prif weithredwr dros dro'r sianel yn dilyn ymadawiad Iona Jones nos Fawrth.

Mae Mr Owen, sy'n 66 oed, yn gyn bennaeth rhaglenni'r BBC yng Ngogledd Iwerddon ac yn gyn bennaeth adran Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru.

Yn 1990 fe sefydlodd gwmni cysylltiadau cyhoeddus Cambrensis, sydd hefyd yn cynhyrchu rhaglenni teledu a radio.

Dywedodd Mr Owen ar raglen y Post Prynhawn BBC Radio Cymru mai un o'i flaenoriaethau fydd cyhoeddi canllawiau iaith newydd ar gyfer y Sianel.

Daw'r newyddion wrth i ffigyrau amlwg barhau i ofyn am eglurhad am ymadawiad Ms Jones.

Dywedodd cyn-brif weithredwr S4C, Huw Jones, fod gan y cyhoedd hawl i wybod mwy.

Un arall sy wedi gofyn am eglurhad yw David Davies, Cadeirydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan.

Ac mae Cynghrair y Trethdalwyr hefyd yn dweud bod dyletswydd ar y sianel i fod yn fwy agored.

Mae S4C wedi gwrthod gwneud sylw pellach am ymadawiad Ms Jones a fu wrth y llyw ers 2005.

Dywedodd Huw Jones nad yw'n gwybod beth yn union sydd wedi digwydd, ond fel aelod cyffredin o'r cyhoedd ei fod yn dyfalu.

"Dwi'n meddwl fod gan y cyhoedd hawl i gael gwybod gan fod y sianel yn gorff sy'n derbyn arian cyhoeddus ac wedi ei sefydlu i gyflawni swyddogaeth unigryw o ran y Gymraeg a bod ei drefniadau mewnol a goruchwylio yn faterion o ddiddordeb cyhoeddus.

Iona Jones
Bu Iona Jones wrth y llyw ers 2005

Mae David Davies, AC Mynwy, a nifer o wleidyddion eraill hefyd wedi galw am eglurhad.

"Mae hawl gennym ni i wybod gan fod S4C yn debryn tua £100 miliwn o arian cyhoeddus bob blwyddyn," meddai Mr Davies.

"Mae hawl gan y cyhoedd i wybod be maen nhw'n ei wneud gyda'r arian".

Ar ôl penodiad Mr Owen dywedodd Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Cymru, ei fod o'n croesawu'r penodiad.

"Rwy'n gobeithio y bydd y gweithredu chwim hwn yn dod a sefydlogrwydd a rhoi sicrwydd i staff y sefydliad, y sector teledu ehangach a chynulleidfaoedd S4C.

Arwel Ellis Owen
Arwel Ellis Owen: Canllawiau iaith newydd

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gydag Arwel a'r awdurdod yn y misoedd heriol sydd i ddod."

Dywedodd John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: "Fe fydd profiad helaeth Arwel ym maes darlledu yn gaffaeliad mawr mewn cyfnod o bwysau mawr ar y Sianel ac yn sicrhau parhad a sefydlogrwydd."

Dywedodd Mr Owen ei fod yn falch o gael y cyfle i arwain y Sianel drwy'r misoedd nesaf a'i fod yn edrych ymlaen at weithio gyda'r sector gynhyrchu a meithrin cysylltiad agos gyda gwylwyr S4C.

"Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyfle gwych i mi a staff S4C i gynnal trafodaeth gyda gwylwyr a chyflenwyr rhaglenni am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw," meddai.



HEFYD
S4C: Galw am eglurhad
30 Gorff 10 |  Newyddion
S4C: Pedwar wrth y llyw
29 Gorff 10 |  Newyddion
S4C: Galw am ymchwiliad
29 Gorff 10 |  Newyddion
Prif Weithredwr wedi gadael S4C
28 Gorff 10 |  Newyddion
S4C i wynebu toriadau?
23 Gorff 10 |  Newyddion
S4C: £2m yn llai
24 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific