British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 31 Gorffennaf 2010, 10:30 GMT 11:30 UK
Brwydr dros uned awtistiaeth

Awtistiaeth - actor fel plentyn tu ol i wydr(Thinkstock)
Mae deg disgybl yn yr uned ym Mwcle, Sir Fflint

Mae rhieni wedi dechrau ymgyrch i achub canolfan yn Sir Fflint i blant gydag awtistiaeth yn dilyn pryderon y gallai gau.

Mae'r uned, sy'n rhan o ysgol gynradd Westwood ym Mwcle, yn darparu therapi arbenigol i hyd at 10 o blant.

Dywedodd llefarydd o adran addysg y cyngor nad oedd llawer o alw am y gwasanaeth a bod yr uned yn destun adolygiad.

Dywedodd un rhiant, Simon Johnson o Wrecsam, ei fod o ac eraill yn gandryll, ac am gael addewidion ynglŷn â dyfodol yr uned.

'Ardderchog'

Mae merch 7 oed Mr Johnson, Mollie, yn mynychu'r uned.

"Rydym yn benderfynol o gadw'r lle ar agor.

"Mae fy merch yn dioddef o awtistiaeth ddybryd ac wedi bod yn dod yma am dair blynedd - mae'r gwasanaeth yn ardderchog.

"Does gen i ddim ond clod i'w gwaith sy'n cael ei wneud yma."

Mae uned Bwcle yn defnyddio techneg o'r enw Astudiaeth Ymddygiad Cymhwysol (ABA), ac yn cyflogi dau seicolegydd sy'n arwain tîm sy'n cynnig therapi un am un.

'Ychydig o alw'

Ond dywedodd Mr Johnson fod y ddau seicolegydd nawr wedi gadael wedi i gytundeb rhwng cynghorau Fflint a Wrecsam â Phrifysgol Bangor ddod i ben.

Dywedodd Graham Edwards o Gyngor Wrecsam: "Ychydig iawn o alw sydd yna gan rieni am y dechneg ABA yn Wrecsam, ac o fis Medi ymlaen dim ond un disgybl fydd gyda ni yn yr ysgol.

"Mae cytundebau'r ddau aelod o staff oedd yn cael eu cyflogi gan y brifysgol wedi dod i ben."

Dywedodd llefarydd o Gyngor Sir Fflint: "Gallwn gadarnhau fod y ddarpariaeth awtistiaeth yn Westwood o dan adolygiad."



HEFYD
Canolfan awtistiaeth i agor
27 Mai 10 |  Newyddion
Awtistiaeth: Traean 'heb incwm'
18 Tach 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific