British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 30 Gorffennaf 2010, 18:33 GMT 19:33 UK
Merch 9 oed yn marw yn Nhwrci

Mae merch 9 mlwydd oed o Fro Morgannwg wedi marw mewn damwain rafftio tra ar wyliau yn Nhwrci.

Digwyddodd y drasiedi ddydd Mercher ar lyn Koygeyiz yn agos i ardal Dalyan yn ne'r wlad.

Deellir mai Cerys Potter yw enw'r ferch ac mae ei theulu yn byw yn Llancarfan.

Mae staff o isgenhadaeth Prydain mewn cysylltiad â'r teulu, medd y Swyddfa Dramor.

Dywed yr awdurdodau yn Nhwrci eu bod yn ymchwilio i achos y ddamwain.

Craig

Deellir bod tua dwsin o bobl ar y rafft pan gredir iddo daro yn erbyn craig.

Yn ôl gohebydd y BBC yn Nhwrci, Jonathan Head, roedd ei brawd 12 oed hefyd ar y rafft.

"Fe lwyddodd o i gydio mewn craig arall a chafodd driniaeth am fân anafiadau."

Dywedodd Jill Davies, cadeirydd llywodraethwyr ysgol gynradd Llancarfan: "Mae pawb wedi syfrdanu o glywed y newyddion trist, mae wedi cael effaith ar y gymuned, disgyblion, cyn ddisgyblion a'r staff.

"Roedd hi'n ferch fach mor hyfryd, bydd yna golled mawr ar ei hôl.

"Mae ein cydymdeimlad gyda'r teulu."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific