British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 31 Gorffennaf 2010, 09:41 GMT 10:41 UK
Archesgob yn cael rhyddfraint dinas

Rowan Williams
Yn wreiddiol o Abertawe, Dr Williams ydy'r Cymro cyntaf i fod yn Archesgob Caergaint

Mae Archesgob Caergaint wedi ymuno â chlwb arbennig sy'n cynnwys pêl-droediwr rhyngwladol a chyn arlywydd yr Unol Daleithiau.

Mewn seremoni yn y Abertawe ddydd Sadwrn fe wnaeth Dr Rowan Williams dderbyn rhyddfraint y ddinas.

Rhoddwyd yr un anrhydedd i' r pêl-droediwr John Charles a chyn arlywydd yr Unol Daleithiau Jimmy Carter.

Roedd y seremoni yn Neuadd y Ddinas gyda gwasanaeth yn Eglwys Santes Fair.

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Abertawe eu bod yn gwneud hyn er mwyn nodi pen-blwydd yr Archesgob yn 60 oed ac i ddiolch iddo am ei gefnogaeth i'r ddinas.

Yn wreiddiol o Abertawe, Dr Williams ydy'r Cymro cyntaf i fod yn Archesgob Caergaint ers dros 1,000 o flynyddoedd.

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor bod gan Dr Williams "gysylltiad hir ag Abertawe" a'i fod "yn parhau yn gefnogwr cryf o'r ardal".



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Archesgob yn annerch criw ifanc
13 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific