British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 1 Awst 2010, 08:40 GMT 09:40 UK
Addysg Gymraeg: Pryder rhieni

Plant ar fuarth ysgol
Mae galw cynyddol am addysg gynradd Gymraeg

Mae mudiad sy'n ymgyrchu dros addysg Gymraeg wedi beirniadau yr hyn maen nhw'n ei alw yn 'amharodrwydd' swyddogion addysg i fynd i'r afael â chynnydd yn y galw am addysg Gymraeg.

Dywed mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg fod Cyngor Abertawe wedi penderfynu peidio sefydlu ysgol Gymraeg yng ngogledd penrhyn Gŵyr.

Dyweodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe eu bod yn parhau i ystyried nifer o opsiynau.

Gobaith RhAG oedd y byddai Ysgol Llanmorlais (ger Penclawdd), ysgol cyfrwng Saesneg sy'n cau'r haf yma, yn cael ei sefydlu fel ysgol Gymraeg.

Dywed y mudiad bod llythyr wedi ei anfon gan gyfarwyddwr addysg y sir at lywodraethwyr Ysgol Pontybrenin yng Ngorseinon yn amlinellu'r rhesymau dros beidio â datblygu safle Llanmorlais i fod yn un Gymraeg.

Ar hyn o bryd Ysgol Pontybrenin sy'n darparu addysg Gymraeg ar gyfer plant gogledd Gŵyr, gyda phlant y de yn mynychu Ysgol Llwynderw yn ardal West Cross Abertawe.

"Mae'r ddwy ysgol wedi'u lleoli yn gymharol bell oddi wrth boblogaeth penrhyn Gŵyr," meddai llefarydd ar ran RHAG.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe: "Rydym yn y broses o ddatblygu strategaeth hir dymor ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn Abertawe, ac mae pob opsiwn o dan ystyriaeth.

"Byddwn yn cwrdd â phawb perthnasol cyn hir, gan gynnwys Rhieni dros Addysg Gymraeg

"Rydym yn cydnabod y galw cynyddol am addysg Gymraeg a byddwn yn parhau i ystyried yr opsiynau posib".



HEFYD
Trafod dyfodol ysgolion Abertawe
01 Tach 04 |  Newyddion
Ysgol Gymraeg yn dathlu 60 oed
21 Ion 10 |  Newyddion
'Dim lle' i blant Cymraeg
23 Hyd 07 |  Newyddion
Agor ysgol gyfun Gymraeg
08 Medi 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific