Y gwasanaeth angladdol yn Eglwys Santes Fair Caerfyrddin
Mae teulu milwr wedi bod yn rhoi teyrnged bellach iddo ar ddiwrnod ei angladd, gan ei ddisgrifio fel dyn "dewr, gwrol a ffyddlon". Cafodd Samuel Robinson, 31 oed, o bentref Bronwydd ger Caerfyrddin, ei ladd mewn ffrwydrad yn Afghanistan ar Orffennaf 8. Roedd tua 300 yn bresennol yn y gwasanaeth angladdol yn Eglwys Santes Fair, Caerfyrddin, ddydd Gwener. "Fe wnaeth o gyffwrdd â chalonnau pawb wnaeth gwrdd ag e, roedd e'n garedig ac yn llawn trugaredd," meddai ei rieni Alison a Dennis mewn datganiad. 'Dyheadau' "Roedd yn arweinydd naturiol, wastad yn barod i amddiffyn y gwan. "Fe fyddai'n rhoi i eraill heb feddwl ddwywaith, does yna ddim dyn gyda chalon mwy.
Milwr 'dewr, gwrol a ffyddlon'
|
"Cafodd ei gymryd oddi wrthym yn llawer rhy gynnar." Bu farw'r milwr oedd yn aelod o 5ed Bataliwm y Magnelwyr Brenhinol tra yn Sangin. Ymunodd â'r fyddin yn 20 oed a dyma oedd y pedwerydd tro iddo ymweld ag Afghanistan. "Roedd gennym gynlluniau i fynd dramor gyda Sam y flwyddyn nesa er mwyn cerdded ym Malaysia ac ymweld â Thibet," meddai ei rieni. "Roedd ganddo hefyd gynlluniau i deithio o amgylch Ewrop. "Mae yna gymaint oedd ganddo ar ôl i wneud a dyheadau na fydd yn cael eu gwireddu. "Ond mae'n rhaid i ni gofio fod Sam wedi byw ei fywyd i'r etihaf." Dywedodd y teulu fod y gymuned leol wedi bod yn gefn mawr iddyn nhw a'u bod wedi derbyn cannoedd o lythyrau a chardiau cydymdeimlad.
|