British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 29 Gorffennaf 2010, 18:00 GMT 19:00 UK
Carchar am ladd ei frawd

Glyn Pierce Owen
Bydd Glyn Pierce Owen dan glo am bron 4 blynedd.

Cafodd ffermwr o Ynys Môn a laddodd ei frawd gydag un ergyd ei garcharu am dair blynedd a naw mis yn Llys Y Goron Caernarfon.

Fe gafwyd Glyn Pierce Owen, 47, o Bentraeth, yn euog o ddynladdiad Arthur Pierce Owen, 59, wedi i'r rheithgor ystyried am wyth awr.

Bydd y treulio deufis ychwanegol dan glo am dorri amodau dedfryd ohiriedig, ac fe gafodd orchymyn i dalu £10,000 o gostau.

Yn ogystal fe gafwyd Owen yn euog o aflonyddu hiliol yn erbyn gwraig y dyn fu farw, ond yn ddieuog o ddau gyhuddiad tebyg yn erbyn plismyn a alwyd i'r digwydd yng ngartre'r diffynnydd ym mis Hydref y llynedd.

'Cywilydd'

Bu farw Arthur Owen yn uned niwrolegol ysbyty yn Lerpwl 6 diwrnod wedi'r digwyddiad. Roedd ganddo anafiadau i'w ben a'i ymennydd.

Roedd Glyn Owen wedi honni mai ei frawd oedd wedi ei daro yntau cyn disgyn a tharo'i ben, ac mai damwain oedd y cyfan.

Dywedodd y barnwr Mr Ustus David Lloyd-Jones wrtho: "Fe ddylai gwybod anferthwch yr hyn wnaethoch godi cywilydd arnoch am weddill eich oes."

Ychwanegodd y barnwr fod Owen wedi bod mewn tymer ddinistriol a bod ei frawd wedi ceisio'i dawelu.

"Ond roeddech chi'n dal mewn tymer wyllt," meddai.

"Fe ddywedodd eich brawd wedyn eich bod yn alcoholig. Does dim dwywaith yn fy meddwl mai dyna pryd y gwnaethoch chi ei daro ar ei ên.

"Doedd dim esgus o gwbl. Mae gennych hanes o anelu ergyd pan yn feddw ac mewn sefyllfa o wrthdaro."



HEFYD
Cyhuddo o ladd: Rheithgor allan
28 Gorff 10 |  Newyddion
Ffermwr yn gwadu lladd ei frawd
11 Rhag 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific