British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 31 Gorffennaf 2010, 08:30 GMT 09:30 UK
Cychwyn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd

Eisteddfod
Ymgasglu yn y cymoedd fydd Eisteddfodwyr dros yr wythnos nesaf

Wedi misoedd o waith paratoi mae Eisteddfod Genedlaethol wedi cychwyn yn swyddogol ym Mlaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd.

Roedd Only Men Aloud yn cymryd rhan yn y cyngerdd Croeso 'nôl gyda band Tredegar a nifer o gorau meibion lleol nos Wener.

Roedd côr newydd Only Boys Aloud yn perfformio yn gyhoeddus am y tro cyntaf hefyd.

Dydd Sadwrn y dechreuodd y cystadlu.

Cafodd Only Boys Aloud ei sefydlu gan arweinydd Only Men Aloud, Tim Rhys-Evans, er mwyn hybu canu ymhlith yr ifanc.

Y corau meibion oedd yn perfformio oedd Côr Meibion Beaufort; Cwm; Cwmbrân; Dowlais; Glyn Ebwy; Mynydd Islwyn a Threharris.

Yn ystod y seremoni fe wnaeth Prydwen Elfed-Owens, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, agor yr Eisteddfod yn swyddogol.

Fe wnaeth Richard Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, annerch y gynnulleidfa yn ogystal â Des Hillman, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Ar safle'r Gweithfeydd yng Nglyn Ebwy y mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal.

Bu'r Eisteddfod yng Nglyn Ebwy ddiwethaf yn 1958, ond cafodd ei chynnal yn Nhwm Rhymni yn 1990.

MANYLION I DEITHWYR
O'R GOGLEDD / GORLLEWIN / O GAERDYDD (A470): Cael eich harwain i faes parcio ar Stad Ddiwydiannol Rassau.
CASNEWYDD / CAERFFILI (A467): Cael eich harwain i faes parcio yn Cwm.
O'R FENNI: Teithio ar yr A467 heibio Abertyleri i'r maes parcio yn Cwm. Y bwriad yw torri lawr traffig yng Nglyn Ebwy ei hun.
Mae'r brif fynedfa i fysiau a cherddwyr oddi ar yr A4046 (mynedfa i'r ysbyty newydd) a does dim modd i gerbydau ddefnyddio'r fynedfa yma.
Fe fydd mynedfa arall ar gyfer cerddwyr yng ngogledd y safle oddi ar Steelworks Road.
Bydd bysiau gwennol yn rhedeg o'r ddau faes parcio i'r brif fynedfa drwy gydol y dydd a chyda'r nos, o 07.00 tan ar ôl i'r cyngerdd orffen yn y Pafiliwn.

Dywedodd Mr Hillman bod yr ardal wedi newid cryn dipyn mewn 50 mlynedd.

"Erbyn hyn mae'r bryniau yn wyrdd a'r adfywiad i'w weld ar hyd a lled y dalgylch.

"Daeth y diwydiannau trwm i ben, a bu'n rhaid dargyfeirio ac edrych i'r dyfodol.

"Mae ymweliad y Brifywl yn rhan o ddyfodol Blaenau Gwent ac yn ddechrau ar y bennod newydd yn ei hanes."

Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ar faes a oedd unwaith yn brysur gyda'r gwaith dur.

Bydd bws gwennol ar gael i gludo pobl o'r meysydd paricio i'r Maes bob dydd o 7am tan ddiwedd y cyngherddau nosweithiol.

Fe fydd llefydd parcio ar gyfer ymwelwyr anabl ar gael ym mhob maes parcio.




Tudur Hallam Cadair Tudur
Tudur Hallam enillodd Gadair y Brifwyl

GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific