British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 30 Gorffennaf 2010, 12:41 GMT 13:41 UK
Pryder am ddifrod gan lorïau ym mhentre Beddgelert

Lori ym Meddgelert
Yn gyson mae loriau yn sownd ar y bont yng nghanol y pentref.

Bydd cyfarfod cyhoeddus ym mhentre Beddgelert i drafod y broblem gynyddol o lorïau yn achosi difrod yno.

Dywed busnesau lleol fod mwy o lorïau erbyn hyn yn dibynnu ar declyn llywio lloeren sy'n mynd â nhw drwy strydoedd cul y pentre.

Mae cynghorydd lleol hefyd yn dweud fod hyn yn golygu taliadau yswiriant uwch i'r pentre ac i bobl yng Nghaernarfon sy'n rhannu'r un côd post.

Bydd aelodau seneddol a chynulliad yr ardal hefyd yn bresennol yn y cyfarfod brynhawn ddydd Gwener.

Dydd Gwener cafodd gwesty yn y pentref ei ddifordi gan lori oedd yn ceisio mynd dros y bont, ond does 'na ddim sicrwydd bod teclyn llywio lloeren yn gysylltiedig gyda'r disgwyddiad diweddara.

Fe ddigwyddodd tua 7am yn ô perchennog Gwesty Colwyn, Collen Marsden.

"Wrth i lori deithio heibio'r adeilad fe ddaeth rownd y gornel a tharo un o fy ffenestri," meddai.

"Roedd 'na westai yn aros yna ac mae'n syndod nad oes 'na ddifrod sylweddol."

'Lorïau llawer mwy'

Yn ôl Alun Hughes, perchennog Gwesty Tanronnen, mae systemau llywio lloeren wedi ychwanegu at y broblem.

All y gwasanaethau brys ddim pasio.....mae'r trigolion yn poeni y gallai hynny gael canlyniadau difrifol iawn
Sharon Sanders

Perchennog gwesty Plas Tanygraig, Beddgelert

"Mae'n ymddangos fod mwy o yrwyr o dramor y dyddiau yma, sy'n dibynnu ar lywio lloeren, ac mae'r lorïau yn llawer mwy nag y buon nhw hefyd.

"Y canlyniad yw eu bod yn taro adeiladau a'r bont hanesyddol trwy ganol y pentre gan achosi difrod yn aml.

"Allwn ni ddim beio'r cyngor am hyn - maen nhw wedi gosod arwyddion yn Nhremadog a Phen-Y-Gwryd i rybuddio gyrwyr ond dydyn nhw naill ai ddim yn medru eu darllen neu ddim am eu darllen.

Gwasanaethau brys

Lori ym Meddgelert
Mae loriau hefyd yn taro adeiladau gerllaw'r bont ar strydoedd cul Beddgelert

"Dwi'n cynorthwyo gyrwyr pan maen nhw'n sownd ond hefyd yn nodi rhifau'r lorïau er mwyn i'r cyngor efallai fedru cael ychydig o'r gost trwsio yn ôl."

Clywodd Sharon Sanders, sy'n rhedeg gwesty Plas Tanygraig, sŵn y tu allan i'w chartre fis Tachwedd y llynedd.

"Pan aethon ni allan," meddai, "fe welson ni lori yn diflannu i gyfeiriad Capel Curig.

"Roedd wedi taro to'r tŷ drws nesa gan rwygo tair neu bedair rhes o lechi i ffwrdd - dyna oedd y sŵn.

"Hefyd pan mae lorïau yn mynd yn sownd ar y bont, mae'n gallu cymryd hyd at 20 munud i'w symud.

"All y gwasanaethau brys ddim pasio yn ystod y cyfnod yna ac mae'r trigolion yn poeni y gallai hynny gael canlyniadau difrifol iawn."

Alwyn Gruffydd yw cynrychiolydd yr ardal ar Gyngor Gwynedd, ac mae'n dweud fod gweithwyr y cyngor yno'n wythnosol bron yn trwsio difrod achoswyd gan y lorïau.

"Mae'r lorïau yma yn meddwl y gallan nhw fynd drwy'r strydoedd cul a'r bont yng nghanol y pentre.

"Ond wrth gwrs dy' nhw'n methu a gwneud hynny yn gyson."

Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd Gymuned Beddgelert am 1.00pm.



HEFYD
Llywio lloeren: Lori yn sownd
14 Medi 09 |  Newyddion
Llywio lloeren: Difrodi adeiladau
10 Tach 07 |  Newyddion
Targedu systemau llywio lloeren
21 Awst 06 |  Newyddion
Cur pen i yrrwr lori
21 Awst 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific