British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 29 Gorffennaf 2010, 10:50 GMT 11:50 UK
Cerflun i gofio trychineb bellach yn gyflawn

gwarchodwr y cymoedd
Mae'r glowr - sy'n cael ei ddisgrifio fel gwarchodwr y cymoedd - bellach yn gyflawn

Mae cerflun anferth yn Abertyleri wedi cael ei gwblhau.

Mae'n coffáu 50 mlynedd ers trychineb Glofa'r Chwe Chloch.

Ond pan gafodd y gofeb 20 medr ei dadorchuddio'n swyddogol fis diwethaf doedd y breichiau ddim wedi eu gosod.

Ond mae'r glöwr - sy'n cael ei ddisgrifio fel gwarchodwr y cymoedd - bellach yn gyflawn.

Fis diwethaf, cafodd gwasanaeth a seremoni dadorchuddio ei chynnal er cof am 45 o lowyr gafodd eu lladd ar ôl ffrwydrad 50 o flynyddoedd yn ôl.

Ymhlith y rhai oedd yn mynychu'r gwasanaeth ar safle hen waith glo Chwe Chloch yn Abertyleri oedd Archesgob Caergaint Rowan Williams.

Gorymdaith angladdol i'r golwyr yn 1960
Cafodd 45 o lowyr eu lladd

Digwyddodd y ffrwydrad ar ôl i nwyon gasglu 1,000 o droedfeddi dan ddaear yn 1960.

Credir fod y ffrwydrad wedi ei danio gan wreichionen, ar ôl i garreg daro yn erbyn carreg arall.

Roedd y rhan fwyaf a fu farw yn ddynion lleol.

Mae'r cerflun yn cynnwys enwau'r holl lowyr gafodd eu lladd.

Cafodd glofa Chwe Chloch ei chau yn 1986.



HEFYD
Cerflun i gofio trychineb
28 Meh 10 |  Newyddion
Dadorchuddio llun Lowry yng Nghaerdydd
06 Meh 01 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific