British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 29 Gorffennaf 2010, 12:19 GMT 13:19 UK
'Ehangu i greu nifer o swyddi'

Cwmni Sharp
Cwmni Sharp yw un o brif gynhyrchwyr nwyddau solar y byd

Mae cwmni Sharp yn dweud y bydd ehangu gwerth £30m yn ei safle yng ngogledd Cymru yn creu "nifer sylweddol o swyddi".

Bydd y cwmni yn dyblu'r gwaith cynhyrchu paneli haul a thechnoleg gysylltiedig yn Llai ger Wrecsam.

Dywedodd llefarydd bod disgwyl y bydd nifer o weithwyr sydd yno ar hyn o bryd ac yn gyfrifol am gynhyrchu poptai microdon ar y safle yn newid i'r llinell gynhyrchu newydd.

Ond mae'n debyg y bydd nifer sylweddol o swyddi newydd hefyd, meddai.

Cwmni Sharp yw un o brif gynhyrchwyr nwyddau solar y byd.

Mae 750 o bobl yn gweithio ar y safle yn Llai.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific