Fe fydd Will Young yn y Pafiliwn ar ôl yr Eisteddfod ddod i ben
|
Bydd y canwr pop Will Young yn ymddangos ym Mhafiliwn yr Eisteddfod yr wythnos nesaf. Daw ei berfformiad ar Faes yr Eisteddfod ym Mlaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd, ddiwrnod ar ôl diwedd yr Eisteddfod. Mae'r cyngerdd yn rhan o ymgyrch Y Cymoedd: Calon ac Enaid Cymru. Eisoes mae'r Lostprophets ac Only Men Aloud wedi cymryd rhan mewn cyngherddau tebyg. Daeth Will Young i amlygrwydd yn 2002 ar ôl ennill cystadleuaeth Pop Idol. Mae wedi ennill dwy wobr Brit ac wedi cael sawl llwyddiant gyda senglau ac albymau fel Evergreen, Anything is Possible, Your Game, Light My Fire, Leave Right Now a You & I. Croeso'r Cymoedd Mae o hefyd wedi actio ar lwyfan ac yn y ffilm Mrs Henderson Presents. "Bydd 'na groeso mawr i Will Young yma ym Mlaenau Gwent," meddai Des Hillman, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent. "Mae Adran Hamdden y cyngor wedi cyd-weithio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a Rhaglen Ddatblygu Blaenau'r Cymoedd."
Dywedodd Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Cymru mai un o brif amcanion Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth y Cynulliadyw i ddatblygu digwyddiadau celfyddydol newydd. "Mae'r syniad yma yn cyfuno un o'n prif ddigwyddiadau celfyddydol ac mae'n dangos be all cydweithio ei wneud. "Drwy gydweithio gallwn gynnig rhywbeth mwy a newydd. "Mae strwythur dros dro'r Eisteddfod yn cynnig adnoddau sy'n cyfateb i Arena Rhyngwladol Caerdydd sy'n symud o le i le bob blwyddyn. "Dyma ffordd wych o ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael a gobeithio y bydd hyn yn cychwyn syniadau newydd arloesol ar gyfer y dyfodol." Fe wnaeth Dirprwy Weinidog Tai ac Adfywio Cymru, Jocelyn Davies, ychwanegu bod cael Will Young i berfformio yn y cymoedd yn llwyddiant arbennig. "Bydd yn dilyn wythnos gelfyddydol wych yn yr Eisteddfod. "Fe fydd yr Eisteddfod a chyngerdd Will Young yn hwb i godi ymwybyddiaeth Glyn Ebwy a denu cynulleidfaoedd newydd i'r Cymoedd. "Mae yma fwrlwm o weithgareddau yn y Cymoedd eleni ac mae'n gyfle gwych i weld be sydd gan y Cymoedd i'w gynnig o ran y cynllun adfywio." Newid delwedd Cafodd y cyngerdd ei drefnu ar y cyd rhwng Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent, Ymgyrch Y Cymoedd: Calon ac Enaid Cymru a'r hyrwyddwyr P4 Music. Mae Ymgyrch Y Cymoedd: Calon ac Enaid Cymru yn rhaglen tair blynedd ac yn bartneriaeth rhwng Blaenau'r Cymoedd, Y Cymoedd Gorllewinol a Phartneriaeth y Cymoedd gyda'r bwriad o greu'r dyfodol gorau posib i ardal y Cymoedd a newid delwedd y lle, yn ogystal â dwyn budd economaidd tymor hir i'r ardal. Mae modd cael tocynnau drwy Ticketmaster; Arena Rhyngwladol Caerdydd neu Ticketlineuk.
|