Arwyddion yn y brif fynedfa
'Dwee isha duss-gee Cum-ryeg' a 'Beth ud-ee...un Gum-ryeg' yw rhai o'r cwestiynau a all wynebu ambell i Eisteddfodwr yr wythnos hon. Mae'r diolch i wefan sy'n ceisio rhoi help llaw i bobl sy'n dysgu Cymraeg ac am ymweld â'r Maes yng Nglyn Ebwy. Mae gwefan hwyl-is-fun.com ers rhai misoedd wedi bod yn rhoi cymorth i'r dysgwyr Dros yr wythnosau diwethaf mae'r ymgyrch wedi cael sylw yn y wasg leol ac roedd modd clywed yr ymadroddion ar orsaf radio Real Radio gan roi blas o'r iaith i bobl ar hyd a lled de Cymru. Cefnogaeth Bydd y geiriau ac ymadroddion i'w gweld ar y Maes yn ystod yr wythnos, yn enwedig yn y Ganolfan Groeso. Bwriad yr ymgyrch yw cyflwyno'r Eisteddfod i gynulleidfa newydd.
Cafodd yr ymgyrch ei chefnogi gan Y Cymoedd, Calon ac Enaid Cymru. Pan gafodd y wefan ei sefydlu dywedodd Gwenllïan Carr, Pennaeth Cyfathrebu'r Eisteddfod Genedlaethol, ei bod yn gobeithio y bydd pobl yn teimlo'n ddigon hyderus i'w defnyddio'n ystod wythnos y Brifwyl. "Mae hon yn ymgyrch newydd, sy'n mynd i annog y rheini sy'n byw o fewn awr o daith i'r Eisteddfod i ddod i'n gweld yn ystod yr wythnos," meddai.
|