Ddydd Sadwrn fydd y diwrnod cynta yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd. Agorodd yr Ŵyl yn swyddogol nos Wener gydag Only Men Aloud yn cymryd rhan yn y cyngerdd Croeso 'nôl gyda band Tredegar a nifer o gorau meibion lleol. Eleni mae yna dros 350 o stondinau a siopau ar y Maes, sy wedi ei leoli ar hen safle gwaith dur Glyn Ebwy. Yn ogystal â'r bwrlwm o groesawu dros 160,000 ymwelwyr yn ystod yr wythnos mae cymunedau Blaenau Gwent hefyd yn paratoi am newidiau mwy syfrdanol yn y dyfodol agos. Ar ôl i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Glyn Ebwy bydd y safle yn cael ei drawsnewid yn sgil prosiect adfywio anferth. Hyder newydd Mae cynlluniau i godi 720 o gartrefi a llawer mwy mewn prosiect gwerth £350 miliwn. Mae'r Eisteddfod ar safle'r Gweithfeydd lle ar un adeg roedd dros 20,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y gwaith dur lleol. Yn ôl pobl leol mae 'na hyder newydd yn yr ardal ac mae ymweliad yr Eisteddfod wedi ychwanegu at yr hyder hwnnw. "Bydd hi'n Eisteddfod wahanol ac mae'n argoeli i fod yn Eisteddfod dda," meddai Richard Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith. "Rydym yn erfyn arnoch chi, gefnogwyr yr Eisteddfod o bob cwr o Gymru a thu hwnt i ddod yma. "Gallwn sicrhau y bydd 'na arlwy ychydig yn wahanol ar gael, y tro cyntaf i ni gael traeth ar y Maes a hynny mewn ardal sy'n bell o'r arfordir! "Mae 'na lu o ddanteithion ar Faes unigryw." Fe gaeodd gwaith dur Glyn Ebwy yn 2003 ac ers hynny mae'r ardal wedi gweithio'n galed i sicrhau dyfodol ffyniannus. Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Blaenau Gwent y Gweithfeydd yw un o brosiectau adfywio mwya Ewrop ar hyn o bryd. Mae son y bydd yn credu 2,000 o swyddi. Bydd y datblygiad yn cynnwys tai, ysgol a chanolfannau addysg, ysbyty, canolfannau hamdden, canolfannau busnes â chysylltiadau rhwng y safle a'r dref.
|