British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 28 Gorffennaf 2010, 10:29 GMT 11:29 UK
Cwmni bwyd wedi ei werthu eto

Rachel's Organic pots

Mae'r cwmni bwyd Rachel's Dairy o Aberystwyth wedi cadarnhau fod y cwmni wedi ei werthu i gwmni o Ffrainc.

Er bod trafodaethau'n dal i ddigwydd, dywedodd llefarydd fod Rachel's Dairy wedi ei werthu am swm anhysbys i Groupe Lactalis.

Mae tua 140 o bobl yn gweithio yn y ffatri yng Nglan Yr Afon yn Aberystwyth.

Perchnogion Rachel's Dairy yw'r cwmni o America, Dean Foods, ond fe ddechreuodd y busnes ar fferm ym mhentre Borth ger Aberystwyth.

Cafodd ei brynu gan gwmni arall o America - Horizon Organic Dairy - yn 1999, cyn i Dean Foods brynu'r cwmni yna yn 2004.

Bu dyfalu ers diwedd mis Mai bod camni Rachel's Dairy ar werth.

'Ymrwymo'

Dywedodd aelod cynulliad Ceredigion a'r Gweinidog Materion Gwledig Elin Jones:

"Dwi'n falch fod gwerthu Rachel's Dairy nawr wedi ei gytuno.

"Fe fydda i'n edrych ymlaen am gyfarfod buan gyda'r perchnogion newydd er mwyn gweld beth fydd eu cynlluniau i barhau i gynhyrchu iogwrt ar safle Aberystwyth.

"Fy nisgwyliadau ar hyn o bryd yw fod y cwmni newydd wedi ymrwymo i Aberystwyth ac i Gymru."



HEFYD
Hufenfa yn y fantol?
11 Meh 10 |  Newyddion
Dirwy o £3,200 i gwmni organig
12 Gorff 07 |  Newyddion
Cwmni organig yn creu swyddi
11 Tach 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific