British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 27 Gorffennaf 2010, 05:54 GMT 06:54 UK
Poeni am ddiffyg cofnodi anafiadau pen chwaraewyr rygbi

Sean Gilbertson
Dywedodd Sean Gilbertson nad yw'n cofnodi anafiadau

Mae'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ac Undeb Rygbi Cymru wedi mynegi pryder ar ôl i ymchwiliad gan BBC Cymru ddangos nad yw nifer o anafiadau pen yn cael eu cofnodi.

Yn ôl rheolau'r gêm, dylai chwaraewyr ddweud wrth swyddogion eu clybiau os ydyn nhw'n dioddef ergyd i'r pen sy'n achosi iddyn nhw golli ymwybyddiaeth.

Mae symptomau yn cynnwys cur pen, methu â chofio ac anallu i ganolbwyntio.

Yn ôl y rheolau, ni ddylen nhw chwarae am dair wythnos.

1 mewn 5

Ond yn ôl arolwg gan y BBC o 75 chwaraewr o chwe chlwb yng Nghymru, roedd 'na 91 achos lle credir bod chwaraewr wedi dioddef ergyd i'r pen a achosodd iddyn nhw golli ymwybyddiaeth.

Ond dim ond 14 o'r achosion a gofnodwyd, sef tua 1 mewn 5.

Roedd 'na brinder cofnodion am anafiadau a ddioddefir gan chwaraewyr yng Nghymru, heblaw pan fo disgwyl cais am iawndal yswiriant.

Dywedodd Sean Gilbertson o glwb Llantrisant ei fod yn aml yn dioddef ergyd i'w ben ond ddim yn eu cofnodi.

"Mae fy ngwraig yn gyson yn dweud wrtha i am stopio chwarae, ac mae hi'n grac fy mod i'n dod adref gyda phen tost.

"Weithiau, dwi'n ei chael hi'n anodd y diwrnod canlynol hefyd, ac ar y dydd Llun dwi'n teimlo'n simsan ac yn bryderus.

Bryan Davies (picture Llinos Lanini)
Roedd Mr Davies yn chwarae yn safle'r bachwr pan gafodd ei anafu

"Ond y meddylfryd ym myd rygbi yw bod anafiadau yn rhan o'r gêm a bod angen parhau i chwarae."

Dywedodd Steve Griffiths o'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol: "Mae'n bryder mawr nad yw chwaraewyr yn bod yn onest â nhw eu hunain.

"Achos maen nhw'n gwneud niwed iddyn nhw eu hunain."

Yn ôl cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, David Pickering: "Mae hyn yn fater o bryder achos fe ddylai chwaraewyr fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau."

Y llynedd fe wnaeth chwaraewr rygbi o'r Bala gofnodi ei brofiadau ar ddu a gwyn.

Cafodd Bryan 'Yogi' Davies ei barlysu ar ôl damwain yn ystod ei gêm olaf i'r Bala cyn rhoi'r gorau i chwarae.

Mae o wedi colli unrhyw deimlad o'i wddf i lawr.

Mae'n gobeithio y bydd ei lyfr - Mewn Deg Eiliad - yn helpu unrhyw un yn yr un sefyllfa.

Yn gynharach eleni fe wnaeth Stadiwm y Mileniwm dderbyn clod am y trefniadau meddygol yn dilyn anaf difrifol i'r asgellwr Thom Evans o'r Alban.

Cafodd anafiadau i'w wddw yn y gêm yn erbyn Cymru ar Chwefror 13.

Bydd mwy am y stori yma ar raglen Week In Week Out, BBC Un Cymru, 10.35pm nos Fawrth.



HEFYD
Anaf difrifol: Apl i godi arian
14 Mai 07 |  Newyddion
Wa! Bala: 'O nerth i nerth'
13 Medi 08 |  Newyddion
Anaf rygbi: Balch o fod adre
08 Tach 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific