Roedd yr Epynt y gymyned Cymraeg ei hiaith
|
Fe fydd yna gyfle i bobl "ailymweld" a chymuned goll mewn arddangosfa arbennig yn Aberhonddu ddydd Gwener. Mae trefnwyr yn gofyn i bobl ddod ag eitemau a lluniau o hen gymuned gafodd ei chwalu 70 mlynedd yn ôl wrth i'r Weinyddiaeth Amddiffyn feddiannu ardal Yr Epynt. Mae'r ymgyrch i beidio â gadael i ddigwyddiadau'r gorffennol gael eu hanghofio wedi eu sbarduno gan Mudiad y Ffermwyr Ifanc yn y sir. Yn ôl Claire Price, Cadeirydd y mudiad ym Mrycheiniog, roedd aelodau wedi galw am brosiect fyddai'n helpu Cymreigio'r mudiad yn lleol. 'Cymuned Gymraeg' "Roedd nifer o aelodau hefyd gyda theuluoedd oedd yn arfer ffermio ar Yr Epynt ac am gael gwybod mwy am yr hanes."
 |
Roedd yna acen arbennig a ffordd o fyw, ond cafodd y cyfan ei golli
|
Yn 1940 gorfodwyd 54 o ffermydd i adael yr ardal. "Ar y pryd roedd Yr Epynt yn gymuned Cymraeg ei hiaith." "Bwriad yr arddangosfa yw hel deunydd at ei gilydd. "Y nod wedyn yw mynd â'r cyfan ar daith o amgylch y sir ym mis Awst a mis Medi." Un arall o'r trefnwyr yw John Davies. Roedd ei hen nain, Ceinwen, yn byw ar fferm Gwybedog ger Tirabad. "Mae'n bwysig ein bod yn cofio am yr iaith a hefyd ardal mor Gymreigaidd oedd hon. "Roedd yna acen arbennig a ffordd o fyw, ond cafodd y cyfan ei golli. "Roedd yna tua 220 o bobl yn byw ar y ffermydd, ond rhaid i chi gofio bod y ffermydd pryd hynny hefyd yn cyflogi o leia dau was, felly cafodd tua 500 o weision fferm eu heffeithio. "Fe wnaeth y bobl symud i wahanol lefydd, i Aberhonddu, Sir Benfro, Sir Fôn a Swydd Henffordd, cafodd y gymuned ei chwalu. " Cyfres o ddigwyddiadau Dywedodd fod y prosiect wedi bod yn llwyddiannus wrth greu diddordeb yn yr hyn a ddigwyddodd. Y "sioe deithiol" yw'r diweddara mewn cyfres o ddigwyddiadau i gofio'r digwyddiad.
Y genhedlaeth iau yn cael dysgu hanes yr Epynt
|
Yn gynharach eleni cafodd drama arbennig ei hysgrifennu gan Euros Lewis. Mae'r ddrama Golau Epynt eisoes wedi bod ar daith ond bydd perfformiad ola ar Hydref 30. Bydd yna daith gerdded hefyd ar Awst 23 ar Yr Epynt. Mae trefnwyr yn cwrdd â swyddogion y Fyddin ddydd Gwener i gytuno ar yr union lwybr. Bydd rhai o'r bobl olaf i gael eu geni ar Yr Epynt yn cymryd rhan ar y daith fydd yn dod i ben yng Nghapel y Babell, a oedd yn ganolbwynt i'r gymuned. Dywed Ms Price fod ymchwilio'r hanes wedi magu diddordeb nifer yn y Gymraeg. "Bydd yna gôr gennym yn cystadlu yn Gymraeg am y tro cynta a hynny yn eisteddfod y ffermwyr ifanc ym mis Tachwedd eleni."
|