British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 26 Gorffennaf 2010, 07:02 GMT 08:02 UK
Ford yn wynebu camau cyfreithiol?

Arwydd Ford
Mae Ford yn mynnu eu bod wedi cyflawni eu cyfrifoldebau i gyn weithwyr.

Daeth rhybudd i gwmni Ford, eu bod yn wynebu achos cyfreithiol ynglyn â phensiynau milwyr o gyn weithwyr.

Mae'r achos yn ymwneud â'r gweithwyr gafodd eu trosglwyddo i Visteon ar ôl i Ford werthu nifer o ffatrïoedd ym Mhrydain, gan gynnwys Abertawe.

Dywed undeb Unite fod Ford wedi rhoi cyngor 'camarweiniol' i'r gweithwyr symudodd i gwmni cydrannau ceir Visteon yn 2000.

Fe aeth Visteon i ddwylo'r gweinyddwyr y llynedd.

Yn ôl yr undeb cafodd y gweithwyr wybod y byddai eu hawliau pensiwn yn cael eu gwarchod, ond mae hyd at 4,000 o weithwyr wedi clywed bellach y gallan nhw golli cymaint â hanner eu pensiwn.

Mae'r gweithwyr wedi bod yn ymgyrchu i orfodi Ford i gymryd cyfrifoldeb am eu pensiynau.

'Camarwain'

Rydym yn credu bod Ford wedi camarwain llawer o'r gweithwyr i gredu bod eu pensiynau yn ddiogel gyda Visteon
Roger Maddison

Swyddog Cenedlaethol Undeb Unite

"Collodd cannoedd o weithwyr eu gwaith heb rybudd - llawer ohonyn nhw'n agos at oed ymddeol - gan golli eu pensiynau," meddai Roger Maddison swyddog cenedlaethol Unite.

"Rydym yn credu bod Ford wedi camarwain llawer o'r gweithwyr i gredu bod eu pensiynau yn ddiogel gyda Visteon.

"Methodd Ford a datgan yn glir y risg o drosglwyddo asedau yr oedd staff wedi'u casglu gyda Ford."

Protest cyn weithwyr Visteon
Mae cyn weithwyr Visteon wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn Ford

Ddydd Llun cyhoeddodd Unite eu bod wedi ysgrifennu ar Ford i ddweud y bydd camau cyfreithiol yn dilyn oni bai bod yr anghydfod yn cael ei ddatrys.

Mae Ford yn mynnu ei fod wedi cwrdd â'r gofynion wrth i weithwyr drosglwyddo i gwmni Visteon.

Dywed y cwmni: "Mae'r sefyllfa i lawer o gyn weithwyr Visteon yn anffodus, ond cyfrifoldeb Visteon oedd gweinyddu a thalu am eu hamodau gwaith gan gynnwys rheoli'r gronfa bensiwn.

"Fe wnaeth Ford gyflawni eu cyfrifoldebau i'w cyn weithwyr."

Pan aeth Visteon i'r wal yn 2009, fe brynwyd y ffatri yn Abertawe gan gwmni Linamar o Ganada.

Ond yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd Linamar eu bod yn cau'r ffatri sy'n cyflogi 200 o bobl.



HEFYD
Colli 200 o swyddi mewn ffatri
07 Gorff 10 |  Newyddion
Penderfyniad cyn hir i bensiynwyr
05 Gorff 10 |  Newyddion
Rali dros bensiwn cyn-weithwyr
31 Maw 10 |  Newyddion
Protest pensiwn cyn-weithwyr
21 Ion 10 |  Newyddion
Colli swyddi: Cyfarfod cyhoeddus
16 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific