British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 24 Gorffennaf 2010, 11:17 GMT 12:17 UK
Yr awdures Iris Gower yn marw

Iris Gower

Bu farw'r awdures doreithiog o Abertawe, Iris Gower, yn 75 oed.

Daeth cadarnhad gan ei theulu iddi farw yn Ysbyty Singleton Abertawe ddydd Mawrth.

Aeth yno rhyw dair wythnos yn ôl ar gyfer llawdriniaeth, ond bu farw o niwmonia.

Ysgrifennodd ddwsinau o lyfrau - nofelau hanesyddol ar y cyfan oedd wedi'u gosod yn ardal Abertawe a Gŵyr - a werthodd yn eu miliynnau ledled y byd.

Ei henw iawn oedd Iris Davies, ac fe gafodd ei geni yn ardal Y Mwmbwls cyn symud i fyw yn Derwen Fawr gerllaw.

Anrhydeddau

Mae llyfrau Iris Gower yn cael eu cyhoeddi dros y byd mewn nifer o ieithoedd, ac mae nhw hefyd ar gael ar longau mordeithiau fel yr Oriana a'r QE2 lle bu'n siaradwraig wadd dro yn ôl.

Bu hefyd yn ddarlithydd gwadd mewn cynadleddau i awduron ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, a bu'n derbyn llythyrau gan ei chefnogwyr o Abertawe i Awstralia.

Derbyniodd gymrodoriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Metropolitan Abertawe yn ogystal a derbyn MA mewn ysgrifennu creadigol gan Brifysgol Caerdydd.

Dywedodd ei mab Paul Davies fod ganddi angerdd am ysgrifennu am hanes diwydiannol Abertawe.

"Roedd hi wastad yn ysgrifennu a dyna fydd ei hetifeddiaeth," meddai.

"Dwi'n credu y byddai'n hoff o gael ei chofio am y ffaith bod ei llyfrau, er mai ffuglenni oedden nhw, yn cael eu defnyddio gan brifysgolion.

"Roedd hi'n berson a'i thraed ar y ddaear," ychwanegodd, "yn groesawgar ac roedd wrth ei bodd yn cwrdd gyda phobl."

Bu farw ei gwr Tudor yn 2000, ac mae'n gadael partner, Peter.

Mae hefyd yn gadael pedwar plentyn - Paul, Tudor, Angela a Susan - ac 11 o wyrion ac wyresau.

Bydd angladd Iris Gower yn amlosgfa Treforys ddydd Gwener am 3.00pm.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific