British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 23 Gorffennaf 2010, 13:54 GMT 14:54 UK
Adnewyddu, nid dymchwel ysbyty

Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan
Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd yn 2008 y byddai'n rhaid dymchwel Ysbyty Glan Clwyd

Daeth cadarnhad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei bod hi'n bosib y byddan nhw nawr yn adnewyddu Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn hytrach na'i ddymchwel.

Yn 2008 cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Edwina Hart y byddai'r ysbyty yn cael ei ail adeiladu ar gost o £300 miliwn ar ôl pryderon am y maint o asbestos oedd yn yr adeilad.

Daw'r newid meddwl posib yn dilyn profiad Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful - roedd problemau tebyg yno, ond fe ddaeth yn amlwg fod adnewyddu yn ddewis posibl.

Cafodd y ddau ysbyty eu hadeiladu tua'r un adeg rhyw 40 mlynedd yn ôl.

Gorchymyn

Ym mis Chwefror, fe orchmynnodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch i'r bwrdd iechyd dynnu asbestos o'r nenfwd yn wardiau 11 a 12 ym Modelwyddan.

Un dewis yw adnewyddu yng ngolau'r gwaith sydd wedi cael ei wneud yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful
Neil Bradshaw

Cyfarwyddwr Cynllunio Gweithredol y Bwrdd Iechyd

Mae'r gwaith yna wedi dechrau ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn mis Hydref.

Roedd gorchymyn arall gan y gweithgor yn trafod yr adeilad cyfan ac yn galw ar y bwrdd i wneud archwiliad manwl o'r nenfydau.

O ganlyniad i'r archwiliad hwnnw, mae camau wedi eu cymryd i ddiogelu staff a chleifion ym mloc H yr ysbyty, ac fe fydd to'r adeilad hwnnw'n cael ei ail godi.

'Diogelwch yn flaenoriaeth'

"Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i ddatblygu Ysbyty Glan Clwyd," meddai Neil Bradshaw yw Cyfarwyddwr Cynllunio Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

"Fe fydd ein cynlluniau strategol yn cael eu cyflwyno i'r cynulliad ym mis Tachwedd.

"Un dewis yw adnewyddu yng ngolau'r gwaith sydd wedi cael ei wneud yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.

"Diogelwch y staff, cleifion a'r cyhoedd yw'n blaenoriaeth uchaf o hyd, ac mae system awyru o dan lefel y nenfwd yn cael ei ddefnyddio'n fisol i sicrhau fod y diogelwch yna'n parhau."



HEFYD
Ailadeiladu ysbyty llawn asbestos
20 Maw 08 |  Newyddion
£12 miliwn i ganolfan ganser
06 Ebr 09 |  Newyddion
Ysbyty: Diffyg o £8m
27 Mai 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific