British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 23 Gorffennaf 2010, 12:07 GMT 13:07 UK
Pryder am fod purfa ar werth yn Sir Benfro

Purfa olew Murco, Aberdaugleddau
Mae'r burfa yn un o brif gyflogwr yr ardal

Mae perchnogion purfa olew Murco yn Aberdaugleddau wedi dweud ei fod ar werth.

Dywedodd yr Americanwyr, Murphy Oil, eu bod yn gadael de orllewin Cymru ac yn bwriadu gwerthu eu busnesau yn Wisconsin a Louisiana a'u gorsafoedd petrol yn y DU.

Mae purfa olew Chevron yn Sir Benfro hefyd ar werth.

Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor sir bod y cyhoeddiad yn "bryder gwirioneddol" ac y bydd y cyngor yn ceisio cael trafodaethau gyda rheolwyr Murco.

Mae 370 o bobl yn gweithio ar y safle a'r burfa ydi'r prif gyflogwr yn y porthladd ers iddo agor yn 1973.

Ergyd

Mewn datganiad dywedodd Murphy Oil bod bwrdd cyfarwyddwyr wedi cytuno i adael y busnes.

Maen nhw'n disgwyl y bydd y trosglwyddo wedi ei gwblhau erbyn chwarter cyntaf 2011.

"Mae hi'n amser anodd iawn i'r diwydiant yn Sir Benfro," meddai John Allen-Mirehouse, dirprwy arweinydd y cyngor.

"Yn amlwg mae'r cyhoeddiad yma o bryder gwirioneddol i ni, ond rhaid nodi bod chwech o'r naw burfa ar werth.

"Petai'r purfeydd yn cau fe fyddai rhaid i Lywodraeth San Steffan wynebu problem diogelwch dros gyflenwad olew'r wlad."

Mae'r burfa yn gallu prosesu dros 5 tunnell o olew craidd bob blwyddyn.

Yn ychwanegol at betrol a disel mae'n cynhyrchu propane, butane, kerosene ac olew ar gyfer llongau.

Fe wnaeth cwmni Chevron gyhoeddi ym mis Mawrth eu bod yn chwilio am brynwr i'r burfa yn Sir Benfro lle mae tua 1,400 yn gweithio.

Yn ôl y cwmni, sydd hefyd wedi ei leoli yn America, roedden nhw eisiau gweld faint o ddiddordeb oedd 'na yn y safle ond na fyddai'n cau.



HEFYD
Chevron yn chwilio am brynwr
09 Maw 10 |  Newyddion
Pryder am swyddi purfa olew
21 Ion 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific