British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 23 Gorffennaf 2010, 12:43 GMT 13:43 UK
SÍr Hollywood yn Ysbyty Plant Cymru

Catherine Zeta Jones a Michael Douglas yn cyrraedd yr ysbyty ddydd Gwener
Catherine Zeta Jones a Michael Douglas yn cyrraedd yr ysbyty ddydd Gwener

Mae'r actores Catherine Zeta Jones a'i gŵr, yr actor Michael Douglas, wedi ymweld ag un o ysbytai Caerdydd.

Bwriad yr ymweliad oedd rhoi hwb i ymgyrch codi arian ar gyfer Ysbyty Plant Cymru.

Fe wnaeth yr actores o Abertawe agor yr ysbyty yn swyddogol ar ymweliad yn 2006.

Daeth eu hymweliad 10 mlynedd ers i Apêl Arch Noa gael ei lansio, sef yr apêl i godi arian tuag at yr ysbyty.

Cafodd y ddau y cyfle i weld yr adnoddau sydd ar gael i'r plant yn yr ysbyty sy'n rhannu safle gydag Ysbyty Athrofaol Cymru.

Noddwr

Mae'r elusen yn ceisio codi £7 miliwn er mwyn codi uned gofal dwys, theatrau a wardiau newydd.

Roedd cyfle i'r actorion gyfarfod cleifion ac aelodau o'u teuluoedd ddydd Gwener.

Mae Catherine Zeta Jones yn un o noddwyr Apêl Arch Noa ac yn 2005 fe wnaeth y cwpl roi swm pum ffigwr i'r elusen.

Michael Douglas a Catherine Zeta Jones
Dyma ail ymweliad y cwpl gyda'r ysbyty

Roedd rhan gyntaf y prosiect yn golygu dwy ward gyda lle i 25 gwely yno ac un ward ganser 16 gwely.

Costiodd £9 miliwn gyda Llywodraeth y Cynulliad yn darparu £4.5 miliwn a'r £4.5 miliwn arall yn dod o Apêl Arch Noa.

Fe fydd yr ail ran yn cael ei godi drws nesaf i'r rhan gyntaf.

Yn ogystal â'r wardiau newydd bydd yno ardd breifat i'r plant a'u teuluoedd.

Mae'r ail ran yn costio £54.3 miliwn.

Adeiladu

Llywodraeth y Cynulliad fydd yn sicrhau'r arian wrth i'r byrddau iechyd a Comisiwn Iechyd Cymru ei ariannu o ddydd i ddydd.

Mae Apêl Arch Noa wedi gaddo codi £7 miliwn i ddarparu offer sy'n cynnwys sganiwr MRI ac offer ar gyfer yr uned gofal dwys newydd.

Ysbyty Plant Cymru
Y gobaith yw y bydd y datblygiad cyfan wedi ei gwblhau erbyn 2014

Mae'r sganiwr £1.5 miliwn yn caniatáu i riant orwedd drws nesaf i'r plentyn.

Bydd rhaid chwalu adeiladau a fydd yn dechrau ym mis Ionawr cyn i'r gwaith adeiladu gychwyn ym mis Awst 2011.

Y gobaith yw y bydd y datblygiad cyfan wedi ei gwblhau erbyn 2014.

Dyma fydd yr ysbyty cyntaf yng Nghymru i arbenigo mewn triniaethau i blant.



HEFYD
Cytuno ar arian i'r ysbyty plant
30 Ion 08 |  Newyddion
'Ysbyty plant Caerdydd, nid Cymru'
08 Hyd 06 |  Newyddion
Zeta'n falch o agor ysbyty plant
20 Meh 06 |  Newyddion
ApÍl Arch Noa'n cyrraedd y nod
27 Medi 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific