British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 22 Gorffennaf 2010, 14:09 GMT 15:09 UK
Ymchwiliad i'r gost o groesi pont

Pont Hafren
Mynegwyd pryder am effaith tollau'r pontydd ar economi Cymru

Cyhoeddodd Pwyllgor Materion Cymreig y Senedd yn San Steffan eu bod am gynnal ymchwiliad i'r gost o groesi dros Bont Hafren.

Fe godwyd pryderon am effaith y gost o groesi'r pontydd ar economi Cymru ac ar ddefnyddwyr y pontydd.

Mae pryder hefyd am ddyfodol y pontydd pan fyddan nhw'n dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus.

Dywedodd y pwyllgor fod y ddwy bont yn gyswllt hanfodol rhwng De Cymru a Lloegr.

Hanfodol

Cytunodd y pwyllgor sefydlu ymchwiliad i'r doll sy'n cael ei thalu i groesi'r Hafren.

Fe fydd yr ymchwiliad yn ystyried:-

  • Effaith y tollau ar economi Cymru gan gynnwys busnesau, trigolion lleol a thwristiaid
  • Lefelau'r tollau presennol a'r dulliau o dalu sydd ar gael
  • Cyflwr presennol y pontydd a'r gost gysylltiedig o'u cynnal a'u cadw
  • Dyfodol y pontydd wedi iddyn nhw ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus

Gofynnodd y pwyllgor am ddatganiadau ysgrifenedig ar y pynciau yma.

Y diwrnod ola i gyflwyno datganiadau fydd Medi 3, 2010.

Mae disgwyl i sesiynau tystiolaeth gyhoeddus gael eu cynnal ym misoedd Hydref a Thachwedd eleni.



HEFYD
Talu cherdyn ar Bont Hafren
24 Meh 10 |  Newyddion
Codi tollau Pont Hafren eto
19 Tach 08 |  Newyddion
Pont Hafren: 'Dilewch y tollau'
31 Rhag 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific