Bu John Dixon yn gadeirydd ers 2002
|
Mae Cadeirydd Plaid Cymru John Dixon yn rhoi'r gorau i'w swydd wedi wyth mlynedd ddydd Iau. Mae enwebiadau am swydd cadeirydd y blaid yn agor yn syth a byddant yn cau ar Fedi 30. Bydd y Dirprwy Gadeirydd, Ellen ap Gwynn, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Ceredigion, yn gweithredu fel cadeirydd dros dro. Dywedodd John Dixon: "Rwyf wedi gwasanaethu fel cadeirydd ers 2002 a chan fy mod wedi penderfynu peidio â cheisio am enwebiad Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, rwyf wedi penderfynu hefyd ymneilltuo o'r gadeiryddiaeth a rhoi f'amser i weithgareddau eraill". 'Cyfraniad aruthrol' Yn ôl darpar-lywydd y blaid, Jill Evans ASE: "Mae John wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Plaid Cymru am 8 mlynedd a bu ei gyfraniad aruthrol yn rhan allweddol o lwyddiannau diweddar y Blaid. "Mae wedi helpu i drawsnewid y Blaid yn blaid broffesiynol a chyfoes. "Mae John yn uchel iawn ei barch gan holl aelodau'r Blaid, a bydd yn anodd iawn ei ddilyn. "Ar ran y blaid, carwn ddiolch iddo am ei holl waith caled yn ystod y cyfnod hwn."
|