British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 22 Gorffennaf 2010, 15:29 GMT 16:29 UK
Sioe: Y bedwaredd dyrfa fwyaf

Ceffylau yn y Sioe Fawr
Torrwyd y record am y nifer o ymwelwyr mewn diwrnod

Cyhoeddwyd bod cyfanswm o 230,766 o bobl wedi ymweld â Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru eleni, sef y bedwaredd dyrfa fwyaf yn hanes y sioe.

Ymwelodd 51,622 o bobl â'r maes yn Llanelwedd ddydd Iau, sef 4,500 yn fwy na'r llynedd.

Ddydd Mercher, torrwyd y record am y nifer o ymwelwyr mewn diwrnod, sef 70,613 o bobl, gan guro'r record flaenorol o 69,852 a gafwyd yn 2008.

Un o uchafbwyntiau'r sioe eleni oedd agor Neuadd Fwyd newydd ar gost o £1.6 miliwn.

Dywed y trefnwyr bydd modd arddangos dwywaith gymaint o gynnyrch yn yr adeilad newydd.

Cafodd y neuadd wreiddiol ei chodi yn 1992.

Yn ogystal cafodd cystadleuaeth cneifio ryngwladol ei chynnal yn y Sioe gyda chynrychiolwyr o 28 o wledydd yn cymryd rhan.

Ac roedd dros 8,000 o anifeiliaid wedi eu cofrestru ar gyfer gwahanol gystadlaethau.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific