British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 22 Gorffennaf 2010, 08:50 GMT 09:50 UK
Siarter brenhinol i brifysgol newydd

Prifysgol Llanbed
Mae Prifysgol Llanbed yn un o'r hynaf ym Mhrydain y tu allan i Gaergrawnt a Rhydychen.

Mae prifysgol newydd grëwyd trwy uno dau goleg wedi cael sêl bendith siarter brenhinol.

Cafodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ei ffurfio'n swyddogol wedi i'r frenhines gymeradwyo gorchymyn i ganiatáu'r siarter.

Yn dilyn argymhelliad y Cyfrin Gyngor, fe orchmynnodd yr Arglwydd Ganghellor i roi Sêl Fawr i'r siartr atodol.

Mae'n nodi'r uno rhwng Coleg Y Drindod, Caerfyrddin â Phrifysgol Cymru, Llanbed.

'Angen newid'

Daeth croeso i'r newyddion gan y gweinidog addysg Leighton Andrews.

"Dwi'n falch o glywed y newyddion," meddai.

"Fel y dywedais mewn datganiad ar lawr y cynulliad, mae angen i'r sustem addysg uwch yng Nghymru i newid a newid yn gyflym er mwyn cwrdd â gofynion dysgwyr Cymru, i chwarae rhan fwy amlwg yn yr atgyfodiad economaidd ac i ddarparu cyfiawnder cymdeithasol wrth gystadlu'n rhyngwladol.

coleg
Bydd y brifysgol newydd yn creu "pwerdy addysg yn y de-orllewin"

"Mae Llywodraeth Y Cynulliad wedi dweud yn glir yn ei strategaeth ar gyfer addysg uwch yng Nghymru ei bod hi'n hanfodol i brifysgolion adeiladu ar eu cryfderau trwy ymrwymo i gydweithio, i greu partneriaethau ac i uno.

"Mae creu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn nodi cam sylweddol i'r cyfeiriad yna."

Pwerdy

Daw'r uno yn dilyn cynnydd mewn costau a diswyddiadau posib yn Llanbed, un o'r sefydliadau addysg uwch hynaf ym Mhrydain y tu allan i Gaergrawnt a Rhydychen gyda siartr yn dyddio yn ôl i 1828.

Fe unodd gyda Choleg Y Drindod, a ffurfiwyd yn 1848, ym mis Rhagfyr y llynedd a bydd y myfyrwyr cyntaf yn dechrau ar eu cyrsiau yno ym mis Medi eleni.

Dywedodd yr is-ganghellor, Dr Medwin Hughes, y byddai'n creu "pwerdy addysg yn ne-orllewin Cymru."



HEFYD
Coleg yn derbyn statws newydd
23 Chwef 09 |  Newyddion
Pennaeth newydd i goleg
27 Mai 09 |  Newyddion
Cyhoeddi enw prifysgol newydd
16 Ebr 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific