Mae Maes Awyr Caerdydd yn awyddus i ystyried ehangu
|
Gallai gwasanaethau o Faes Awyr Caerdydd gael eu hehangu wrth i gwmni Flybe gyhoeddi buddsoddiad mewn mwy o awyrennau. Mae'r cwmni eisoes yn hedfan i 11 cyrchfan o Gaerdydd, gan gynnwys Paris, Belffast a Chaeredin. Bydd Flybe yn prynu hyd at 140 o awyrennau newydd, ac maen nhw'n ystyried lleoliadau megis Dusseldorf, Lyon a Frankfurt wrth iddyn nhw ganolbwyntio ar y farchnad fusnes. Dywedodd Maes Awyr Caerdydd eu bod yn awyddus i edrych ar opsiynau gyda Flybe. Ehangu gweithredoedd Nhw yw cwmni awyr rhanbarthol mwyaf Ewrop, ac yn debyg o brynu awyrennau Embraer 175. Maen nhw eisoes wedi archebu 35 wrth iddyn nhw ystyried ehangu eu gweithredoedd ledled Prydain ac Ewrop, gan gynnwys Caerdydd. Dywedodd Jim French CBE, cadeirydd a phrif weithredwr cwmni Flybe: "Mae Flybe yn falch iawn o gyhoeddi'r buddsoddiad sylweddol o $1.3 biliwn (£850 miliwn) wrth archebu awyrennau Embraer 175. "Wrth wneud hynny, rydym yn prynu awyren sy'n gydnaws â'n nod o gryfhau'n sefyllfa fel cwmni awyr rhanbarthol mwyaf Ewrop." 'Galw mawr' Steve Hodgetts yw cyfarwyddwr masnachol a datblygu busnes Maes Awyr Caerdydd. "Yng ngolau cyhoeddiad Flybe," meddai, "rydym yn awyddus i edrych ar y posibiliadau o ehangu ein gweithredoedd o Faes Awyr Caerdydd i gynnig mwy o gyrchfannau i deithwyr Cymru, a rheini yn amlach. "Mae yna alw mawr am wasanaethau i gyrchfannau busnes a hamdden mewn gwledydd Ewropeaidd fel yr Almaen a Ffrainc, ac fe fyddai Flybe yn bartneriaid ardderchog yn y fenter. "Fe fyddwn yn croesawu unrhyw drafodaethau gyda Flybe ynglŷn â sut y gallai ehangu gwaith y cwmni fod o fudd i Faes Awyr Caerdydd a Chymru oll yn ogystal".
|