British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 22 Gorffennaf 2010, 14:31 GMT 15:31 UK
Colli Lowri Gwilym

Lowri Gwilym
'Person rhyfeddol ac angerddol'

Bu farw Lowri Gwilym, un o olygyddion cynnwys S4C.

Roedd hi'n 55 oed a bu farw nos Fercher ar ôl gwaeledd byr.

Roedd hi'n gyfrifol am raglenni ffeithiol y Sianel.

Cyn hynny bu'n gweithio i BBC Cymru a hi oedd yn gyfrifol am sefydlu'r gyfres radio poblogaidd 'Beti a'i Phobol' sydd newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed.

Bu hefyd yn gyfrifol am y gyfres deledu 'O Flaen Dy Lygaid' a'r gyfres 'Women in Politics' ar gyfer rhwydwaith y BBC.

Bu'n gyfrifol am amrywiaeth fawr o raglenni ffeithiol ar S4C gan gynnwys y cyfresi 'O'r Galon' a 'Wynebau Newydd'.

'Person angerddol'

Dywedodd Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, mewn datganiad ar ran cydweithwyr a ffrindiau Lowri Gwilym yn S4C:

"Roeddem wedi bod yn gobeithio'r gorau ers i Lowri gael ei tharo'n wael yr wythnos ddiwethaf.

"Mae'r newyddion am ei marwolaeth wedi ein syfrdanu ac yn achos tristwch mawr i ni.

"Roedd Lowri yn berson rhyfeddol ac angerddol ac rydym yn cydymdeimlo'n ddwys â Meic, y plant a'r teulu oll."

Fe wnaeth BBC Cymru dalu teyrnged i Lowri Gwilym hefyd.

"Bu Lowri yn aelod poblogaidd iawn o Adran Ffeithiol BBC Cymru, yn gweithio gyda ni yma am nifer o flynyddoedd," meddai Adrian Davies, Pennaeth Adran Ffeithiol a Cherddoriaeth BBC Cymru.

"Roedd Lowri yn llwyddiannus tu hwnt yn ei gyrfa.

"Gweithiodd ar ystod eang o gynyrchiadau yma yn yr adran, ond yr hyn y byddwn yn ei gofio orau amdani oedd ei mewnbwn neilltuol i'r gyfres O Flaen dy Lygaid, cyfres y bu hi'n ei meithrin, a chyfres y cafodd fwynhau llwyddiant ysgubol arni fel Golygydd Cyfres.

"Roedd Lowri yn gydweithwraig anhygoel ac yn ffilmwraig dalentog a galluog iawn.

"Byddwn yn gweld ei cholli yn fawr iawn, ac yn cydymdeimlo gyda'i phartner Meic a'u meibion."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific