Maen nhw'n bwriadu cwtogi 5% y flwyddyn nesaf
|
Mae Comisiwn y Cynulliad, sy'n gyfrifol am adeilad y Senedd ac am ddarparu gwasanaethau i Aelodau Cynulliad, yn cynllunio i dorri chwarter ei gyllideb dros y pum mlynedd nesaf. Daw ei gyllideb o £48 miliwn o'r grant bloc Cymreig. Maen nhw'n bwriadu cwtogi 5% y flwyddyn nesaf, gyda chyfanswm y toriadau yn 23% erbyn diwedd 2014-15. Ymhlith yr arbedion sy'n cael eu hystyried y mae rhoi diwedd ar ostyngiadau ar gyfer bwyd a pharcio. Ond eu bwriad yw gwarchod y gwasanaethau yn ymwneud â drafftio a chraffu ar ddeddfwriaeth. £185 miliwn Yn gynharach yn y mis fe wnaeth Llywodraeth y Cynulliad gyhoeddi eu bod yn torri nôl o £185 miliwn i'r gyllideb eleni, fel rhan o gynllun arbedion y llywodraeth glymblaid yn San Steffan. Ond dywed Jane Hutt y Gweinidog â chyfrifoldeb dros y Gyllideb ei bod wedi penderfynu amddiffyn y gyllideb gyfalaf er mwyn parhau i fuddsoddi mewn addysg, tai, iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd tua £49 miliwn yn cael eu clustnodi ar gyfer cynlluniau o'r fath.
|