British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Gorffennaf 2010, 14:18 GMT 15:18 UK
Poeni am ddiffyg amser i ddysgu coginio

Dosbarth ciginio

Mae 'na bryder nad oes digon o amser yn cael ei neilltuo ar gyfer gwersi coginio mewn ysgolion.

Yn benodol y pryder yw coginio cig.

Roedd 100 o ysgolion yn rhan o'r arolwg gan Hybu Cig Cymru gyda nifer o athrawon yn cyfaddef fod diffyg amser yn amharu ar eu hymdrechion i roi gwersi coginio cynhwysfawr.

Cafodd yr arolwg ei gyhoeddi ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Mercher.

Ar y maes mae 'na wersi coginio i'w gael.

Anfantais

Dywedodd Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Rees Roberts, bod yr arolwg yn dangos bod athrawon yn gefnogol iawn i ddefnyddio bwyd a defnyddio cig yn eu cwricwlwm.

"Ond y broblem yw nad oes ganddyn nhw'r adnoddau nag amser i wneud y gwaith yn iawn.

"Mae llai nag awr mewn wythnos yn annigonol i baratoi, coginio a glanhau wedyn.

"Yr anfantais efo cig yw ei fod yn cymryd mwy o amser i goginio."

Un sy'n galw am newid y ffordd y mae coginio yn cael ei ddysgu mewn ysgolion ydi'r cogydd Bryn Williams o fwyty Odets yn Llundain.

"Fyswn i'n hoffi gweld ysgolion yn canolbwyntio llawer iawn mwy i ddangos sgiliau cyffredin coginio efo plant bach.

"Mae ysgolion yn cymryd y ffordd hawsaf - yn gwneud awr yr wythnos.

"Ond mae angen mwy o bwyslais ar goginio yn hytrach na siarad a threfnu.

"Mae'n rhaid cael dy ddwylo yn fudur i ddysgu.

"Fe ddylai ysgolion roi mwy o amser, cael mwy o arian a mwy o ddychymyg i ddysgu plant."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific