British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 20 Gorffennaf 2010, 07:19 GMT 08:19 UK
Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Llysfasi yn uno

Coleg Llysfasi
Bydd lle ar gyfer 22,000 o fyfyrwyr yn y coleg newydd

Ar faes y Sioe Frenhinol fe unodd dau o sefydliadau addysg bellach y gogledd ddwyrain yn swyddogol.

Mae Coleg Llysfasi â Choleg Glannau Dyfrdwy wedi dod at ei gilydd i greu un o'r colegau addysg bellach mwyaf ym Mhrydain.

Bydd yn darparu cyrsiau ar gyfer dros 22,000 o fyfyrwyr pob blwyddyn gyda darpariaeth eang o gyrsiau'n ymwneud â'r byd amaeth.

Fe fydd y sefydliadau yn cychwyn ar eu cyfnod newydd ar Awst 2.

Bydd 'na 1,000 o staff yn darparu cyrsiau amrywiol o ofal anifeiliaid, ceffyleg, blodeuwriaeth, garddwriaeth, peirianneg y tir, amaethyddiaeth, peirianneg amaethyddol, coedwigaeth a chadwraeth.

Cam ymlaen

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, bod hwn yn "ddatblygiad allweddol" i'r diwydiant garddwriaethol.

"Dwi'n dymuno'r gorau i'r fenter yma," ychwanegodd.

Coleg Glannau Dyfrdwy
Mae 'na dros 1,000 o staff rhwng y ddau sefydliad

Mae Coleg Llysfasi wedi ei leoli yn Rhuthun gyda Choleg Glannau Dyfrdwy yng Nghei Conna, Llaneurgain a Threffynnon.

Dywedodd David Jones, Pennaeth a Phrif Weithredwr y coleg unedig newydd, fod yr uniad yn gam ymlaen ar gyfer colegau ac Addysg Bellach yng Nghymru.

"Yn dilyn ein huniad llwyddiannus gyda Choleg Garddwriaeth Cymru yn 2009, rydym wedi arddangos sut y gall uniadau rhwng colegau wneud y sector yn gryfach ac yn fwy effeithlon.

"Rydym wrth ein bodd gyda'r cyrhaeddiad diweddaraf yma fydd yn dod a dau goleg addysg bellach llwyddiannus iawn yng Ngogledd Ddwyrain Cymru at ei gilydd.

"Mae gan y ddau goleg hanes hir a balch o ddarparu dysgu ac addysgu gwych a gweithio mewn partneriaeth.

"Rydym yn hyderus y bydd yr uniad yn adeiladu ar y sylfeini llwyddiannus yma ac yn gwella cyfleoedd dysgu er mwyn cefnogi busnesau, cymunedau ac unigolion yn y rhanbarth.

"Rwy'n hyderus bod gennym trwy ein staff gwych y sgiliau, gallu a phrofiad i sefydlu'r coleg fel canolfan ragoriaeth ryngwladol ar gyfer Addysg Bellach a dysgu galwedigaethol, gan y byddwn yn chwarae rhan bwysig ym mholisïau uchelgeisiol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer addysg, dysgu gydol oes a sgiliau."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific