British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 20 Gorffennaf 2010, 07:42 GMT 08:42 UK
Galw am ddileu'r ddeddf sy'n gwarchod moch daear

Mochyn Daear
Collodd Llywodraeth y Cynulliad achos yn y llys i gychwyn difa moch daear mewn ardal benodol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi galw am ddileu'r ddeddf sy'n amddiffyn y moch daear.

Ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd mae'r undeb wedi awgrymu y dylid ceisio cael gwared â'r ddeddf wedi dyfarniad y Llys Apêl yr wythnos diwethaf.

Penderfynodd y llys nad oedd modd i Lywodraeth y Cynulliad ddechrau cynllun difa moch daear yng ngogledd Sir Benfro, rhannau o Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Roedd Ymddiriedolaeth y Moch Daear wedi herio'r cynllun oedd i reoli diciâu gwartheg.

Colli achos yn gysgod dros y sioe

Mae'r undeb yn bwriadu ysgrifennu at yr adran amaeth yn Llundain i ddileu'r ddeddf.

Dywed yr undeb y byddai newid Deddf Moch Daear yn caniatáu i ffermwyr ladd moch daear mewn ardaloedd sy'n cael ei effeithio gan ddiciâu neu TB mewn gwartheg.

Bydd yn golygu na fyddai ffermwyr yn cael eu herlyn am ladd yr anifail.

Mae'r undeb yn honni y gallai difa moch daear leihau nifer y gwartheg fyddai'n diodde o'r diciâu yn ardal gogledd Sir Benfro 30% dros bum mlynedd.

"Dros 10 mlynedd yn ôl roedd Adroddiad Krebs yn nodi'n glir nad oedd y moch daear yn rhywogaeth oedd mewn peryg," meddai Llywydd yr Undeb, Gareth Vaughan.

"Mae 'na dystiolaeth bod y moch daear yn cael effaith andwyol ar rywogaethau eraill.

"Mae'n amser i adolygu'r Ddeddf Moch Daear."



HEFYD
Llywodraeth yn colli achos llys
13 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific