Mae'r Tywysog William yn hyfforddi yn Y Fali
|
Fe fu dadlau am gost gwarchod y Tywysog William wrth iddo gael ei hyfforddi yng Nghanolfan Awyrlu'r Fali. Roedd adroddiad papur newydd wedi honni y byddai'n costio dros £1m er mwyn ei warchod mewn bwthyn ar Ynys Môn. Nos Lun roedd cadarnhad nad Heddlu'r Gogledd fyddai'n gorfod talu am hynny ond "cronfa ganolog". Roedd yr adroddiad papur newydd wedi honni bod angen 15 o blismyn arbenigol Heddlu'r Gogledd i'w warchod. Fe fydd y Tywysog yn byw yn y bwthyn diarffordd tra ei fod ar gwrs tair blynedd yr Awyrlu. Yn ôl y papur, gallai'r costau gyrraedd £1.4 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr. £50m Dywedodd Cyn-bennaeth Uned Amddiffyn y Teulu Brenhinol yn Heddlu Llundain, Dai Davies, fod mwy na £50 miliwn yn y gronfa ganolog i warchod y Teulu Brenhinol. "Yn amlwg, mae 'na drafferthion wrth warchod bwthyn diarffordd, lle bynnag y mae. "Mae'n rhoi pwysau ychwanegol ar y rhai sydd â dyletswydd i warchod yr aelod. "Fe fyddai'n llawer saffach yn y gwersyll lle gall Heddlu'r Awyrlu ei warchod."
|