British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 19 Gorffennaf 2010, 07:44 GMT 08:44 UK
Neuadd Fwyd newydd a hwb o'r dwyrain yn y Sioe

Ceffylau yn y Sioe Fawr
Mae disgwyl i tua 230,000 i ymweld 'r Sioe.

Ar ddiwrnod cyntaf y sioe fe fydd Neuadd Fwyd newydd yn agor ar gost o £1.6 miliwn.

Dywed y trefnwyr bydd modd arddangos dwywaith gymaint o gynnyrch yn yr adeilad newydd.

Cafodd y neuadd wreiddiol ei chodi yn 1992.

"Mae'r lefel o fuddsoddiad yn y Neuadd newydd yn dangos y pwysigrwydd sy'n cael ei roi ym maes arddangos a hyrwyddo bwyd a diod o safon, ac sydd wedi ei gynhyrchu yng Nghymru," meddai David Walters, prif weithredwr y sioe.

Mae'r trefnwyr yn cyfeirio at y Neuadd fel adeilad o bwys ar y safle.

"Dyma un o brosiectau mwya uchelgeisiol ar y Maes ers tro byd," ychwanegodd Mr Walters.

Mae 'na bum mlynedd o waith codi arian wedi bod er mwyn agor y Neuadd.

Yn y cyfamser fe fydd ffermwyr cig oen o Gymru yn gobeithio am hwb o China.

Dydd Llun fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cwrdd â dirprwyaeth fasnachol o lysgenhadaeth China.

Wyneb newydd

Mae'r cyfarfod wedi ei drefnu gan Hybu Cig Oen Cymru.

"Mae allforio Cig Oen Cymru i lefydd fel Hong Kong a Dubai eisoes yn gwneud cyfraniad pwysig i'n heconomi, ond byddai'n wych pe bai modd ei allforio mwy," meddai Mr Jones.

Yn 2009 roedd allforion Cig Oen Cymru yn cyfrannu £109 miliwn i'r economi Cymreig.

Dywed Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru bod buddsoddiad o £360,000 wrth roi wyneb newydd i'r Prif Gylch ar ôl iddo gael ei ddifrodi gan y tywydd garw yn 2009.

Ym mis Mehefin cyhoeddodd y Sioe eu bod wedi llwyddo i wneud bron iawn i £390,000 o elw er gwaetha tywydd garw y flwyddyn flaenorol.

Roedd hyn yn gyfanswm o bron i £630,000 o elw am y flwyddyn, o ganlyniad i lwyddiant dau ddigwyddiad arall sy'n cael eu trefnu ar y safle, sef Y Ffair Aeaf a'r ŵyl Tyddyn a Gardd.

Bydd cystadleuaeth byd eang cneifio yn cael ei gynnal yn y Sioe gyda chynrychiolwyr o 28 o wledydd yn cymryd rhan.

Oherwydd bod nifer y stoc ar ei ucha eleni mae 'na bryder am ddiffyg lle i'r holl anifeiliaid.

Mae dros 8,000 o anifeiliaid wedi eu cofrestru ar gyfer gwahanol gystadlaethau.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific