British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 19 Gorffennaf 2010, 16:59 GMT 17:59 UK
Cysgod colli achos difa moch daear dros y sioe

Mochyn Daear
Fydd difa moch daear ddim yn dechrau yng Nghymru

Mae Llywydd y Sioe Fawr wedi dweud bod penderfyniad y Llys Apêl yn erbyn cynllun Llywodraeth y Cynulliad i ddifa moch daear yn gysgod dros y digwyddiad.

Ddydd Llun fe aeth i 52,448 i "sioe amaethyddol fwya Prydain" yn Llanelwedd.

Yr wythnos diwethaf fe benderfynodd y Llys Apêl nad oedd modd i Lywodraeth y Cynulliad ddechrau cynllun difa moch daear yng ngogledd Sir Benfro, rhannau o Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Nod y cynllun oedd rheoli diciâu gwartheg.

Fe ddywedodd Dai Jones, Llywydd y Sioe: "Dyma'r achos mwya difrifol i ni (diciâu gwartheg).

"Doedd achos traed a genau yn y blynyddoedd diweddar ddim byd o'i gymharu â hyn.

"Mae hwn yn lladd cannoedd neu filoedd o wartheg a neb yn cael gwneud dim.

"Pobl sydd ddim byd i'w wneud ag amaeth sydd wedi atal y difa."

Bod yn llywydd, meddai, oedd "yr anrhydedd fwya erioed."

Mae Llywydd NFU Cymru, Ed Bailey, wedi rhybuddio ffermwyr i beidio ag ystyried torri'r gyfraith drwy ladd moch daear.

Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai modd ail-ddechrau'r cynlluniau difa o fewn misoedd.

'Colli cefnogaeth'

"Dwi'n deall rhwystredigaeth y ffermwyr," meddai.

"Mae'n anodd iawn a dwi'n gwbl ymwybodol o'r problemau mae'r clefyd yn eu hachosi.

"Ond y pryder ydi hyn - os bydd ffermwyr yn cymryd y cyfrifoldeb eu hunain, fe fyddwn ni mewn dŵr poeth ac yn colli cefnogaeth."



HEFYD
Llywodraeth yn colli achos llys
13 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific