British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 16 Gorffennaf 2010, 06:07 GMT 07:07 UK
Llais Gwynedd yn cadw sedd ar Gyngor Gwynedd

Richard Lloyd Jones
Cafodd Richard Lloyd Jones 185 o bleidleisiau

Mae Llais Gwynedd wedi llwyddo i ddal ei gafael ar un o'i seddi ar Gyngor Gwynedd.

Cafodd isetholiad ei gynnal ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Iau.

Pedair pleidlais yn unig oedd rhwng Richard Lloyd Jones a Paul Thomas o Blaid Cymru yn ward Diffwys a Maenofferen.

CANLYNIAD ISETHOLIAD
Richard Lloyd Jones - Llais Gwynedd = 185 pleidlais
Paul Thomas - Plaid Cymru = 181 pleidlais
Nifer y rhai bleidleisiodd 44%

Cafodd yr etholiad ei gynnal oherwydd ymddiswyddiad y cyn-gynghorydd Gwilym Euros Roberts.

"Roedd hon yn sedd anodd ei dal," meddai Cadeirydd Llais Gwynedd, y Cynghorydd Owain Williams.

"Felly nid oedd ennill o gyn lleied ddim yn annisgwyl.

"Ond mae hefyd yn profi fod Llais Gwynedd yn parhau'n rym yng Ngwynedd wrth i'r blaid barhau i herio polisïau Plaid Cymru a'u heffaith ar drefi bychain ac ardaloedd gwledig y sir."

Sefydlwyd Llais Gwynedd cyn Etholiadau Lleol yn 2008, yn bennaf i wrthwynebu cynllun cau ysgolion gwledig Plaid Cymru yn y sir.

Mae gan Llais Gwynedd 13 o gynghorwyr sir.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific