British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 16 Gorffennaf 2010, 06:27 GMT 07:27 UK
Ymladd cŵn yn 'broblem enfawr' yn ôl yr RSPCA

David Braddon
Clywodd David Braddon na chaiff gadw anifeiliaid am 10 mlynedd

Mae arolygydd a gyfrannodd at ddal person dylanwadol ym myd ymladd cŵn anghyfreithlon wedi dweud bod yr arfer yn "broblem enfawr".

Cafodd David Brinley Braddon, 47 oed, ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caerffili ddydd Iau ar ôl cyfadde i bum trosedd.

Cafodd ei garcharu am chwe mis am fod â chŵn ymladd yn ei feddiant ac o droseddau'n ymwneud â chreulondeb i anifeiliaid.

Cafodd y cŵn eu canfod ar ôl i'r heddlu a'r Gymdeithas Er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, yr RSPCA, fynd i gartref Braddon yn Llanbradach y llynedd ar ôl i rywun gysylltu gyda nhw.

Dywedodd Ian Briggs, un o arolygwyr yr RSPCA: "Mae ymladd cŵn yn broblem enfawr yn genedlaethol.

"Dyw Cymru ddim yn wahanol."

Dywedodd bod yr hyn wnaeth Braddon yn "farbaraidd", ond bod eraill yn barod i gymryd ei le.

"Mae 'na bobl sydd am ei efelychu.

"Ac mae 'na lawer eraill sy'n parhau â'r arfer."

Dirwy

Dywedodd yr elusen bod Braddon wedi cael ei enwi mewn sawl cylchgrawn anghyfreithlon oedd yn cael ei gynhyrchu gan y rhai oedd yn trefnu ymladd cŵn anghyfreithlon.

Yn y llys dywedodd cadeirydd y fainc, Kathleen Starr, mai dim ond dedfryd o garchar oedd yn addas.

Un o'r cwn
Cafwyd hyd i bum daeargi yn ei gartref

Cafodd Braddon wybod nad oedd modd iddo apelio yn erbyn gwaharddiad o gadw anifeiliaid am 10 mlynedd.

Fe'i gorfodwyd i dalu dirwy o £1,000 mewn costau yn ogystal.

Roedd Braddon wedi ei gael yn euog mewn gwrandawiad blaenorol o gadw cŵn ar gyfer ymladd, achosi dioddefaint diangen i gi drwy beidio ymweld â milfeddyg ac o fod ag offer sy'n cael ei gysylltu gydag ymladd cŵn yn ei feddiant.

Fe wnaeth gyfadde i bum cyhuddiad o fod yn berchen ar ddaeargwn.

Cafwyd o'n ddieuog i bedwar cyhuddiad o gadw cŵn ar gyfer ymladd ac yn ddieuog o achosi dioddefaint diangen i gi arall.

'Llwyddiant'

Pan aeth swyddogion o Heddlu De Cymru i gartref Braddon ym mis Mawrth 2009, fe aeth swyddogion yr RSPCA gyda nhw.

Roedd pum daeargi yno yn byw yng ngarej Braddon ac roedd gan un 42 craith.

Roedd 'na ddau beiriant rhedeg yno gyda dyfais i ddal coler ci a photel o'r cyffur Duplocillin.

Yn ôl yr RSPCA cafodd Braddon yr uchafswm posib o dan glo.

"Mae'n llwyddiant i ni allu erlyn rhywun fel David Braddon," meddai prif archwilydd yr RSPCA, Mike Butcher.

"Mae'n ffigwr allweddol o fewn y gymuned ymladd cŵn.

"Cafodd y gamp yma ei gwahardd mor bell yn ôl ag 1835 ond mae'n dal i gael ei gynnal ar draws Prydain."



HEFYD
Carchar i ddyn am gadw cwn ymladd
15 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific