British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 14 Gorffennaf 2010, 12:46 GMT 13:46 UK
Gosod taenellwr mewn tai newydd?

Diffoddwyr tn
Gall taenellwr achub bywydau

Mae grŵp trawsbleidiol o Aelodau'r Cynulliad wedi dechrau craffu ar gyfraith arfaethedig a fyddai'n golygu y bydd yn orfodol gosod taenellwr awtomatig ym mhob tŷ newydd yng Nghymru.

Cafodd ei gyflwyno fel Mesur arfaethedig gan Ann Jones AC, yr Aelod Cynulliad dros Ddyffryn Clwyd, a nawr bydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 yn craffu arno.

Dywedodd Ms Jones bod gweithio o fewn y gwasanaeth tân am bron i 30 mlynedd wedi codi ei hymwybyddiaeth o effaith "dinistriol" tân.

Mae'r pwyllgor am glywed barn aelodau'r cyhoedd a grwpiau sydd â diddordeb.

'Cysylltwch'

"Ar gyfartaledd, mae tanau mewn tai yn lladd tua 18 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn", dywedodd Rosemary Butler AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

"Rôl y Pwyllgor fydd craffu yn fanwl ar y cynnig a sicrhau ei fod yn gyfraith dda ac ymarferol.

"Er mwyn gwneud hynny, rydym am glywed gan gymaint o bartïon â phosibl sydd â diddordeb, i glywed eu barn am y cynnig.

"Fy neges heddiw yw cysylltwch â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i ddweud eich dweud."

Daw'r ymgynghoriad i ben ar Fedi 3 .

Yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, mae taenellwr yn ymosod ar dân yn y camau cynnar ac yn ei rwystro rhag lledu.

"Gall atal y tân rhag lledu ac achosi niwed neu farwolaeth".

Eglurodd bod y systemau yn "hynod o soffistigedig".

"Fe fydd y dŵr gaiff ei ryddhau yn achosi llai o ddifrod i'r adeilad na'r dŵr sy'n cael ei ddefnyddio gan y diffoddwyr tân," ychwanegodd.



HEFYD
'Dim larwm mwg' mewn cartre
10 Meh 07 |  Newyddion
'Rhowch larwm yn eich cartre'
13 Chwef 07 |  Newyddion
Pennaeth: 'Gormod o danau marwol'
03 Tach 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific