British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 15 Gorffennaf 2010, 16:24 GMT 17:24 UK
Cyngor o blaid cau ysgolion yn ardal y Berwyn

Ysgol Y Parc
Bydd Ysgol Y Parc yn cau

Mae cynghorwyr wedi pleidleisio o blaid argymhellion sy'n golygu cau ysgolion a sefydlu ysgol gymuned gydol oes.

Roedd 35 o gynghorwyr Gwynedd o blaid a 28 yn erbyn.

Ac roedd 50 o rieni ac aelodau Cymdeithas yr Iaith y tu allan i Gyngor Gwynedd yn protestio.

Fe gefnogodd cynghorwyr argymhellion i ymgynghori ynghylch cau ysgolion Beuno Sant, Bro Tegid, ac Ysgol Uwchradd Y Berwyn fel bod modd sefydlu Ysgol Gymuned Gydol Oes yn nhref Y Bala fyddai'n agor yn y flwyddyn academaidd 2014-15.

Penderfynodd cynghorwyr ymgynghori ynghylch cau Ysgol y Parc erbyn Medi 2012 - a chynnig lle i blant y dalgylch yn Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn.

Roedd cynghorwyr o blaid cydweithio rhwng Ysgolion O M Edwards, Ffridd-y-Llyn a Bro Tryweryn.

Mae'r bwriad i gau Ysgol y Parc wedi cythruddo nifer o drigolion lleol a chafodd pwyllgor amddiffyn ei sefydlu.

'Tanseilio'

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Menna Machreth: "Mae'r niferoedd yn y brotest heddiw yn dangos yn glir wrthwynebiad y gymuned i'r cynlluniau.

"Byddwn ni a'r gymuned leol yn brwydro yn erbyn hyn bob cam o'r ffordd.

"Mae'n anhygoel fod Cyngor Gwynedd o bawb am danseilio cymuned Gymraeg fywiog.

"Mae bellach yn glir fod canlyniad y frwydr dros y Parc o bwys i bob cymuned Gymraeg".

Dalgych

Mae'r cyngor yn cynnal arolwg o'u holl ysgolion cynradd fesul dalgylch.

Fe gafodd plaid wleidyddol newydd ei ffurfio yn bennaf i amddiffyn ysgolion gwledig ar ôl i gynlluniau gwreiddiol y cyngor gael eu cyhoeddi.

Yn etholiadau'r cyngor yn 2008 llwyddodd Llais Gwynedd i ennill 13 allan o 75 sedd.

Plaid Cymru oedd y blaid fwyaf gyda 35.



HEFYD
Ad-drefnu: Creu ysgol gydol oes
13 Mai 10 |  Newyddion
Ysgolion: Llais yn cefnu ar broses
03 Awst 09 |  Newyddion
Ail-strwythuro ysgolion cynradd
05 Maw 09 |  Newyddion
Ad-drefnu addysg: 'Cam ymlaen'
11 Maw 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific