British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 14 Gorffennaf 2010, 10:33 GMT 11:33 UK
Gwraig 70 oed mewn sioc wedi lladrad

Heddlu'r De

Fe gafodd gwraig 70 oed ysgytwad oherwydd lladrad yn Noc Penfro.

Dywedodd yr heddlu fod dau ddyn wedi mynd i mewn i dŷ ar yr Heol Fawr ychydig cyn 2pm ddydd Mawrth cyn defnyddio grym yn erbyn pensiynwraig fregus.

Yna fe dorron nhw i mewn i sêff cyn mynd â swm o arian.

Cafodd y wraig driniaeth yn y tŷ gan griw ambiwlans wedi iddi gael ei gadael mewn sioc.

Mae'r heddlu wedi apelio am dystion allai fod yng nghyffiniau'r Heol Fawr o 11am ymlaen ddydd Mawrth ac a welodd unrhywbeth amheus.

Roedd y dyn cynta yn ei ddauddegau hwyr neu dridegau cynnar, yn fwy na 5'9" o daldra gydag acen leol a llygaid golau.

Ac roedd yn gwisgo siwmper dywyll gydag ysgrifen ar y blaen.

Dywedodd yr heddlu fod yr ail ddyn yn llai o gorff ond yn gwisgo siwmper debyg.

Mae plismyn am ddod o hyd i gar lliw arian allai fod wedi cael ei ddefnyddio gan y lladron.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio Gorsaf Heddlu Doc Penfro ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific