British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Gorffennaf 2010, 11:32 GMT 12:32 UK
Diogelu dyfodol ffatri geir

Ffatri Ford ym Mhen-y-bont
Bydd peiriannau ecogyfeillgar yn cael eu cynhyrchu ym Mhen-y-bont

Mae cwmni Ford ar fin derbyn benthyciad ariannol fydd yn diogelu dyfodol ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r BBC wedi derbyn cadarnhad gan Fanc Buddsoddi Ewrop bod benthyciad o £450m wedi ei awdurdodi a bod y dogfennau perthnasol wedi eu harwyddo ddydd Llun.

Bydd y buddsoddiad yn galluogi'r gweithlu ym Mhen-y-bont i fwrw ati o ddifrif i gynhyrchu peiriannau ecogyfeillgar sy'n sicrhau mwy o filltiroedd i'r galwyn.

Dechreuodd y gwaith hwnnw ddiwedd mis Mehefin.

Ar hyn o bryd mae 25% o holl beiriannau Ford ledled y byd a mwy na haner holl beiriannau disel Ford yn cael eu cynhyrchu ym Mhrydain.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Ford bod y benthyciad yn "gwbl allweddol i barhad y ffatri ym Mhen-y-bont.

"Mae'n diogelu dyfodol y safle a dyfodol y staff hefyd".

Mae 2000 yn cael eu cyflogi ar y safle.



HEFYD
Buddsoddiad yn diogelu swyddi
18 Maw 10 |  Newyddion
Ford: Gwerthu yn 'diogelu swyddi'
26 Maw 08 |  Newyddion
800 o swyddi i Ford
Pen-y-bont

22 Tach 02 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific