Y bloc o fflatiau ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda'r giāt ar agor
Cafodd cwest ei agor i farwolaeth merch bump oed a gafodd eu lladd gan giât drydanol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ar ddechrau mis Gorffennaf bu farw Karolina Golabek ddyddie cyn ei phen-blwydd yn chwech oed. Roedd hi tu allan i floc o fflatiau yn Brook Court yn y dref. Dyw achos ei marwolaeth ddim yn glir eto. Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio yn Llys y Crwner Aberdâr. Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jason Redrup o Heddlu Pen-y-bont ar Ogwr wrth y crwner, Peter Maddox, bod Heddlu De Cymru a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad ar y cyd. Dywedodd eu bod yn edrych ar wneuthuriad y giât, gosod y giât a'i chynnal a'i chadw. Mae disgwyl i'r ymchwiliad gymryd peth amser. Mae archwiliadau post mortem wedi eu gwneud ond mae angen ymchwilio ymhellach i achos ei marwolaeth. Cafodd y cwest ei ohirio.
|