Mae amcangyfrif fod 39,000 o bobl Cymru yn diodde o dementia
Bydd gwasanaeth i ddioddefwyr dementia yng Nghymru yn derbyn £1.5m ychwanegol y flwyddyn.
Gweinidog Iechyd Cymru, Edwina Hart, wnaeth y cyhoeddiad gan ddweud y bydd yr arian yn darparu swydd arbennig i ddelio â dementia ymhob tîm iechyd cymunedol i'r henoed ar draws Cymru.
Yn ogystal, fe fydd arian ar gael i ddatblygu gwasanaethau cymunedol i'r rhai sy'n dioddef dementia yn iau, gan roi gwybodaeth arbenigol ar gyfer rhai achosion cymhleth.
Mae Cymdeithas Alzheimer's yn amcangyfrif fod 39,000 o bobl Cymru yn dioddef o ffurf o ddementia.
Mae disgwyl i hyn gynyddu o 35% dros yr 20 mlynedd nesa pan fydd un o bob tri pherson dros 65 oed yn dioddef.
Arbenigwyr
Bydd yr arian gan Lywodraeth y Cynulliad yn cefnogi gwasanaethau iechyd a chymdeithasol i weithredu cynllun a ddatblygwyd gan banel o arbenigwyr a gadeiriwyd gan gyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer's Cymru, Ian Thomas.
Nod y cynllun yw:
datblygu gwell cydweithio rhwng asiantaethau megis y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac yn y blaen;
gwella diagnosis cynnar a gweithredu buan;
darparu gwybodaeth gwell a chefnogaeth i ddioddefwyr a'u gofalwyr/teuluoedd;
cynnig hyfforddiant ychwanegol i'r rhai sy'n darparu gofal.
Bydd Bwrdd Cynllun Iechyd Meddwl yn goruchwylio'r cynllun.
Bydd y bwrdd yn gyfrifol am wella ansawdd y gofal mewn ysbytai.
Dywed Mrs Hart: "Mae yna waith sylweddol wedi'i wneud yng Nghymru i benderfynu'r gweithredu sydd ei angen i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru.
"Mae'r arian ychwanegol, er gwaetha'r hinsawdd economaidd bresennol, yn dangos fy ymrwymiad i a Llywodraeth y Cynulliad i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru."
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.